Teitl y Swydd:
Swyddog Marchnata, Digwyddiadau a Gweinyddiaeth (Entrepreneuriaeth)
Ysgol / Uned:
Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi — Canolfan Entrepreneuriaeth
Lleoliad:
Campws Llandaf, Caerdydd - gyda hyblygrwydd i weithio o gartref
Cyflog:
4A/B, £25,627 - £30,497 y flwyddyn
Oriau:
37 awr yr wythnos neu cyfran swydd 18.5 awr yr wythnos
Daliadaeth:
Parhaol
Rydyn ni'n falch iawn ein bod ni wedi ennill dwy wobr fawreddog eleni - Prifysgol y Flwyddyn 2021 gan y Times Higher Education a'r Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021 gan The Times a The Sunday Times Good University Guide.
Mae ein perfformiad yng nghanllaw eleni yn eithriadol. Ein Prifysgol ddangosodd y cynnydd mwyaf yng Nghymru, a'r trydydd mwyaf yn y DU, gan ein rhoi yn y 40 uchaf yn y DU ar gyfer boddhad myfyrwyr ag ansawdd addysgu a phrofiad ehangach myfyrwyr.
Rydym yn falch iawn bod ein perfformiad cryf wedi golygu bod y Brifysgol wedi denu niferoedd uchel o fyfyrwyr â chymwysterau da ac rydym bellach yn chwilio am staff ychwanegol yn ein hysgolion academaidd a'n hadrannau gwasanaethau proffesiynol.
Y Cyfle
Mae'r Ganolfan Entrepreneuriaeth yn gweithio i ysbrydoli, galluogi a chefnogi gweithgarwch entrepreneuraidd ar draws Prifysgol Fetropolitan Caerdydd. Mae'r tîm sydd wedi ennill gwobrau yn darparu ystod amrywiol o ddeunyddiau, digwyddiadau, gweithgareddau a gweithdai sydd wedi'u cynllunio i annog ac arwain myfyrwyr a graddedigion entrepreneuraidd.
Bydd y swyddog marchnata, digwyddiadau a gweinyddiaeth yn darparu ystod eang o gefnogaeth i'r gweithgareddau hyn. Bydd y rôl yn cynnwys darparu marchnata effeithiol ar gyfer holl weithgareddau'r Ganolfan, gan gynnwys dulliau marchnata traddodiadol yn ogystal â marchnata yn effeithiol ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn electronig. Byddant hefyd yn cydlynu ac yn cefnogi'r ystod eang o ddigwyddiadau a gynhelir gan y Ganolfan ynghyd â darparu cefnogaeth weinyddol yn ôl yr angen.
Byddwch yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig a chyfeillgar gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog ynghyd ag ymrwymiad i ddarparu profiad rhagorol i fyfyrwyr.
Beth fyddwch chi'n ei wneud - dyletswyddau allweddol
Beth fyddwch chi'n cyfrannu - profiad a chryfderau hanfodol
Bydd gennych wybodaeth dda o farchnata strategol ac ymarferol ac yn ddelfrydol profiad o roi hyn ar waith. Byddwch yn gyfathrebwr gwych, ac yn gallu defnyddio'r cyfrwng, iaith a thôn llais priodol i gwrdd â gofynion y sefyllfa. Mae hon yn rôl sy'n gofyn i chi fod yn drefnus a chynllunio'ch llwyth gwaith eich hun mewn ymateb i anghenion ac amserlen y Ganolfan. Rydym yn hapus i chi fentro a rhoi’ch stamp eich hunain ar eich gwaith, gan wneud y gorau o’ch doniau.
Mae bod yn berson proffesiynol sy’n craffu ar fanylion yn hanfodol, ynghyd â brwdfrydedd dros entrepreneuriaeth ac addysg entrepreneuriaidd.
Beth fydd gennych chi - cymwysterau hanfodol
Byddwch wedi eich addysgu at lefel gradd, yn ddelfrydol mewn cwrs sy'n gysylltiedig â marchnata. Byddai aelodaeth gyswllt lawn o'r CIM yn fuddiol.
Ein pecyn gwobrwyo cyfan
Mae gennym amrywiaeth o fanteision mawr i weithwyr gan gynnwys:
Gwyliau blynyddol o 25 diwrnod, gan godi i 30 diwrnod ar ôl blwyddyn o wasanaeth, yn ogystal â 12 gŵyl banc / diwrnod consesiynol
Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gyda chyfraniadau hael
Cyfleoedd gweithio hyblyg ac o bell
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd arobryn gydag aelodaeth â chymhorthdal, ynghyd â ffisiotherapi â chymhorthdal/therapi cyflenwol/tylino chwaraeon
Mynediad i holl gyfleusterau’r llyfrgell
Cynlluniau aberthu cyflog gan gynnwys beicio i'r gwaith
Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch ag Steve Aicheler, Rheolwr Entrepreneuriaeth, yn y saicheler@cardiffmet.ac.uk neu i gael rhagor o wybodaeth am weithio yn y Brifysgol ewch i'n gwefan recriwtio.
Os bydd nifer fawr o geisiadau'n dod i law, efallai y bydd angen i ni gau'r swydd wag hon yn gynnar. Felly, rydym yn eich annog i wneud cais cyn gynted â phosibl.
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol. Mae ein Cynllun Strategol yn sail i'n hymrwymiad i recriwtio a chadw'r dalent orau ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o gefndiroedd amrywiol. Rydym yn penodi ar sail teilyngdod.
Oherwydd y pandemig coronafeirws, mae ein holl recriwtio'n cael ei gynnal yn rhithiol. Ein nod yw ymateb i'ch cais cyn gynted â phosibl.
Rhagor o Wybodaeth
Disgrifiad Swydd Llawn a Manyleb y Person
Ein Pecyn Ymgeisydd
Ewch i'n gwefan i gael gwybodaeth am weithio i ni, ein diwylliant, ein manteision, ein cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a'n cyfleoedd i ddatblygu a datblygu gyrfa.