Prifysgol y Flwyddyn y DU 2021 y Times Higher Education a Phrifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021 The Times a The Sunday Times Good University Guide.
Os oes gennych hanes o gyraeddiadau sy'n dangos yr ymrwymiad, y gallu a’r brwdfrydedd i gyfrannu at ein cymuned ddysgu fyd-eang trwy addysgu, ysgolheictod, ymchwil ac arloesi rhagorol, ynghyd ag angerdd a rennir am ein gwerthoedd a'n gweledigaeth, edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan, ac i gefnogi, ymgeiswyr a fydd yn helpu i ddatblygu ein statws ymchwil ac a fydd yn gwella amrywiaeth ein prifysgol, ein cymuned a'n partneriaethau.
Y Cyfle
Mae gan Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd enw da cenedlaethol a rhyngwladol cynyddol am ragoriaeth ac mae'n cynnig ystod amrywiol ac ysgogol o raglenni israddedig ac ôl-raddedig mewn addysg, y dyniaethau a pholisi cymdeithasol. Wedi’i lleoli’n bennaf ar gampws Cyncoed, rydym yn gweithio ar y cyd â phartneriaid ysgolion a sefydliadau allanol i sicrhau bod ein rhaglenni yn benodol i ddisgyblaeth, yn arloesol ac yn berthnasol yn broffesiynol. Mae gan lawer o'n rhaglenni leoliadau gwaith wedi'u hymgorffori ynddynt i sicrhau ein bod yn paratoi myfyrwyr yn briodol ar gyfer y farchnad swyddi neu i ddatblygu eu hastudiaeth academaidd. Mae lles ein staff, ein myfyrwyr a'n cymuned leol yn sail i bopeth a wnawn wrth i ni barhau i ychwanegu gwerth trwy ein haddysgu, ein harloesedd a'n hymchwil. Fel rhan o'n strategaeth dwf barhaus rydym yn ceisio penodi academydd brwdfrydig, â chymwysterau da a fydd yn cyfrannu at addysgu rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig o fewn eu disgyblaeth tra hefyd yn gwella/cyfrannu at enw da ymchwil yr Ysgol.
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau
Bydd gofyn ichi wneud cyfraniad sylweddol at ddarpariaeth ein portffolio a addysgir gan gyfrannu at y rhaglen israddedig BA (Anrh) Astudiaethau Addysg Gynradd a meysydd eraill ein cwricwlwm craidd yn dibynnu ar eich meysydd arbenigedd a phrofiad. Yn frwdfrydig am addysgeg sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr, byddwch yn cyfrannu at y gwaith o gyflwyno addysg, gan gynnwys rheoli rhaglenni yn ôl yr angen, ar draws y casgliad o raglenni israddedig ac ôl-raddedig. Byddwch hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol at gyflogadwyedd, ac ymgysylltu proffesiynol â sefydliadau mewnol ac allanol perthnasol, ar lefel ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol.
Disgwylir ichi gyfrannu at broffil ymchwil yr adran a chwrdd â'r gofynion ansoddol a meintiol ar gyfer cyflwyno i'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil nesaf.
Beth rydym yn chwilio amdano - Profiad a Chryfderau
Byddwch yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig a chyfeillgar gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol ynghyd ag ymrwymiad i ddarparu profiad rhagorol i fyfyrwyr. Mae proffil ymchwil sefydledig neu addawol ym maes Astudiaethau Addysg Gynradd a phrofiad addysgu da iawn ar raglenni perthnasol yn hanfodol.
Beth rydym yn chwilio amdano - Cymwysterau Hanfodol
Gradd anrhydedd dda.
Er mwyn llwyddo, byddwch yn cyfoethogi profiad ein myfyrwyr ymhellach drwy eich arbenigedd a'ch gwybodaeth bwnc fel yr amlygir gan eich cymwysterau a'ch profiad.
Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch â Chantelle Haughton, Uwch Ddarlithydd mewn Addysg Gynradd a'r Blynyddoedd Cynnar, ar chaughton@cardiffmet.ac.uk
Os bydd nifer fawr o geisiadau’n dod i law, efallai y bydd angen inni gau'r swydd wag hon yn gynnar. Felly, rydym yn eich annog i ymgeisio cyn gynted â phosibl.
Mae'r Brifysgol yn ymroddedig i greu diwylliant hynod gynhwysol. Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg a chyfeillgar i deuluoedd ac amrywiaeth o rwydweithiau staff, fforymau a digwyddiadau i gefnogi a datblygu ein pobl. Rydym yn croesawu ceisiadau gan y rheiny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector addysg uwch yn draddodiadol.
Rhagor o wybodaeth
Darllenwch ein Pecyn Ymgeiswyr neu ewch i'n gwefan recriwtio staff i gael gwybodaeth am weithio inni, ein diwylliant, buddion, cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a'n cyfleoedd ar gyfer camu ymlaen yn eich gyrfa a datblygu.