Teitl y Swydd:
Tiwtor Cyswllt mewn Maeth a Thechnoleg Gwyddor Bwyd
Ysgol / Uned:
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
Lleoliad:
Campws Llandaf, Caerdydd
Cyflog:
£50.05 y sesiwn (yn cynnwys tâl gwyliau o 18%)
Daliadaeth:
Achlysurol
Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021 gan The Times a The Sunday Times Good University Guide.
Mae ein perfformiad yn y Canllaw eleni yn eithriadol. Ein Prifysgol ddangosodd y cynnydd mwyaf yng Nghymru, a'r trydydd mwyaf yn y DU, gan ein gosod ymysg 40 prifysgol gorau’r DU ar gyfer boddhad myfyrwyr ag ansawdd addysgu a phrofiad ehangach myfyrwyr.
Rydym yn falch iawn bod ein perfformiad cryf wedi arwain at y Brifysgol yn denu niferoedd uchel o fyfyrwyr â chymwysterau da ac rydym nawr yn chwilio am staff ychwanegol yn ein hysgolion academaidd a'n hadrannau gwasanaethau proffesiynol.
Y cyfle
Mae Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd yn ganolfan ragoriaeth gydnabyddedig yn y DU sydd wedi sefydlu enw da cenedlaethol a rhyngwladol am ansawdd ei gwaith academaidd ac ymchwil ym meysydd chwaraeon a gwyddorau iechyd. Wedi'i leoli ar draws campysau Cyncoed a Llandaf, rydym yn darparu ystod eang o raglenni academaidd â ffocws galwedigaethol ac yn ymfalchïo mewn adborth da gan fyfyrwyr a chyflogadwyedd rhagorol i raddedigion. Mae llawer o'n rhaglenni wedi'u hachredu'n broffesiynol i fodloni gofynion y proffesiynau chwaraeon a gofal iechyd ac rydym yn ymgysylltu'n agos â diwydiant i ddarparu gwasanaethau ymgynghori a rhaglenni datblygiad proffesiynol. Mae ein Hysgol hefyd yn cyflwyno diwylliant ymchwil ffyniannus, gyda dros 100 o fyfyrwyr PhD ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau. Mae llesiant ein staff, ein myfyrwyr a'n cymuned leol yn sail i bopeth a wnawn wrth i ni barhau i ychwanegu gwerth trwy ein haddysgu, ein arloesedd a'n hymchwil.
Rydym yn ceisio recriwtio Tiwtoriaid Cyswllt eithriadol, â chymwysterau addas sydd ar gael i addysgu ym meysydd Maeth a Thechnoleg Gwyddor Bwyd yn achlysurol neu'n sesiynol. Mae'n hanfodol bod gennych amgyffrediad sylweddol o natur academaidd a/neu broffesiynol eich pwnc ac y gallwch gyfathrebu hyn yn eglur, â thrylwyredd academaidd a brwdfrydedd.
Byddwch yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig a chyfeillgar gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol ynghyd ag ymrwymiad i ddarparu profiad rhagorol i fyfyrwyr.
Yr hyn fyddwch chi'n ei wneud - dyletswyddau allweddol
Meini Prawf Hanfodol –
Sut i wneud cais
Os hoffech chi siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch â Julie Duffy, Arweinydd y Tîm Academaidd, ar jduffy@cardiffmet.ac.uk
I gychwyn eich cais ewch i www.metcaerdydd.ac.uk/jobs
Dyddiad cau: Dydd Gwener 22 Hydref 2021, 16:30yp
Os bydd nifer fawr o geisiadau’n dod i law, efallai y bydd angen inni gau'r swydd wag hon yn gynnar. Felly rydym yn eich annog i wneud cais mor gynnar â phosibl.
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol. Mae ein Cynllun Strategol yn sail i'n hymrwymiad i recriwtio a chadw'r dalent orau ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o gefndiroedd amrywiol. Rydym yn penodi yn ôl teilyngdod.
Oherwydd pandemig y coronafeirws mae ein holl recriwtio’n cael ei gynnal yn rhithiol. Ein nod yw ymateb i'ch cais cyn gynted â phosibl.
Gwybodaeth Bellach
Disgrifiad Swydd Llawn a Manyleb Person
Ein Pecyn Ymgeisydd
Ewch i'n gwefan i gael gwybodaeth am weithio inni, ein diwylliant, buddion, cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a'n cyfleoedd dilyniant a datblygu gyrfa.