Teitl y Swydd:
Darlithydd mewn Addysg Menter
Ysgol/Uned:
Ysgol Reoli Caerdydd
Lleoliad:
Campws Llandaf, Caerdydd
Cyflog:
Gradd 7A/B, £40,927 - £46,042 y flwyddyn
Oriau:
37 awr yr wythnos
Daliadaeth:
Parhaol
Rydyn ni'n falch iawn ein bod ni wedi ennill dwy wobr fawreddog eleni - Prifysgol y Flwyddyn 2021 gan y Times Higher Education a'r Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021 gan The Times a The Sunday Times Good University Guide.
Mae ein perfformiad yng nghanllaw eleni yn eithriadol. Ein Prifysgol ddangosodd y cynnydd mwyaf yng Nghymru, a'r trydydd mwyaf yn y DU, gan ein rhoi yn y 40 uchaf yn y DU ar gyfer boddhad myfyrwyr ag ansawdd addysgu a phrofiad ehangach myfyrwyr.
Rydym yn falch iawn bod ein perfformiad cryf wedi golygu bod y Brifysgol wedi denu niferoedd uchel o fyfyrwyr â chymwysterau da ac rydym bellach yn chwilio am staff ychwanegol yn ein hysgolion academaidd a'n hadrannau gwasanaethau proffesiynol.
Y Cyfle
Mae Ysgol Reoli Caerdydd yn ddarparwr uchelgeisiol ac achrededig o addysg busnes a rheolaeth. Mae ein cyfleusterau, sydd o'r radd flaenaf, yn darparu amgylchedd dysgu calonogol a chreadigol, gan arddangos yr Ysgol fel canolfan flaenllaw yn y DU ar gyfer Cyfrifeg, Economeg a Chyllid; Busnes, Rheolaeth a'r Gyfraith; Marchnata a Strategaeth; a Thwristiaeth, Lletygarwch a Rheoli Digwyddiadau. Rydym yn falch o'n cyfraniad sylweddol at adfywiad rhanbarthol a thwf economaidd trwy addysgu, gwaith menter ac ymchwil gymhwysol.
Yn gartref i gyfadran amrywiol a cholegol, ac yn ymateb i anghenion ein cymunedau busnes rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol, rydym wedi cychwyn ar gyfnod uchelgeisiol o dwf mewn dwyster ymchwil a datblygu rhaglenni.
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau
Bydd gofyn i chi wneud cyfraniad sylweddol at gyflawni ein portffolio a addysgir gan gyfrannu at ystod o raglenni israddedig ac ôl-raddedig mewn Economeg a meysydd eraill o'n cwricwlwm craidd yn dibynnu ar eich meysydd arbenigedd a phrofiad. Yn frwdfrydig am addysgeg myfyriwr-ganolog, byddwch yn cyfrannu at ddarparu addysg, gan gynnwys rheoli rhaglenni yn ôl yr angen, ar draws yr ystod o raglenni israddedig ac ôl-raddedig. Byddwch hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol at gyflogadwyedd, ac ymgysylltiad proffesiynol â sefydliadau mewnol ac allanol perthnasol, ar lefel ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol.
Disgwylir i chi gyfrannu at broffil ymchwil yr adran a chwrdd â'r gofynion ansoddol a meintiol ar gyfer eu cyflwyno i'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil nesaf.
Mae'r Ysgol yn rhedeg MSc Entrepreneuriaeth a Rheoli Arloesedd arloesol, llwybr Entrepreneuriaeth ar y BA(Anrh) Busnes a Rheolaeth a bydd yn lansio gradd BA(Anrh) Entrepreneuriaeth Gymhwysol a Rheoli Arloesedd ym mis Medi 2022.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr rhagorol sydd â phrofiad addysgu, profiad entrepreneuriaeth a/neu ddiddordebau ymchwil ym meysydd addysg Menter. Bydd cyfleoedd ar gyfer goruchwylio ymchwil Ôl-radd.
Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano - profiad a chryfderau
Byddwch yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig a chyfeillgar gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol ynghyd ag ymrwymiad i ddarparu profiad myfyriwr rhagorol. Mae proffil ymchwil sefydledig neu addawol ym maes Entrepreneuriaeth a phrofiad addysgu da iawn ar raglenni perthnasol yn hanfodol.
Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano - cymwysterau hanfodol
I fod yn llwyddiannus byddwch yn cyfoethogi profiad ein myfyrwyr ymhellach trwy eich arbenigedd a'ch gwybodaeth bwnc fel y gwelir yn eich cymwysterau a'ch profiad.
Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch â Dr Aylwin Yafele, Pennaeth Adran, ar ayafele@cardiffmet.ac.uk neu i gael rhagor o wybodaeth am weithio yn y Brifysgol ewch i'n gwefan recriwtio.
Pe bai nifer uchel o geisiadau yn cael eu derbyn, efallai y bydd angen i ni gau'r swydd wag hon yn gynnar. Felly rydym yn eich annog i wneud cais mor gynnar â phosibl.
Oherwydd pandemig y coronafeirws, mae ein holl recriwtio’n cael ei gynnal yn rhithiol.
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i greu gweithle amrywiol a chynhwysol. Rydym yn croesawu ceisiadau gan gymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn arbennig.
Gwybodaeth Bellach
Disgrifiad Swydd Lawn a Manyleb Person
Ein Pecyn Ymgeisydd
Ewch i'n gwefan i gael gwybodaeth am weithio i ni, ein diwylliant, buddion, cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a'n cyfleoedd datblygu a datblygu gyrfa.