Mae Cymru, fel gweddill y DU angen rhagor o dai. Mae bron y cyfan o'r gwaith coed a ddefnyddir i adeiladu yng Nghymru wedi cael ei fewnforio, ond gallai hynny newid gyda chychwyn Prosiect Cartrefi o Bren Cynhenid (HGH)). Ariennir prosiect HGH drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglenni Datblygu Gwledig 2014-2020 o'r Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygiad Gwledig. Mae coed yn profi i fod yn ddeunydd ardderchog ar gyfer adeiladu o gwmpas y byd. Yn ogystal a bod yn ddeunydd yn isel mewn carbon, yn ysgafn ei bwysau, ac yn ddeunydd iach, mae hefyd yn ddelfrydol ar gyfer technegau adeiladu oddi ar y safle, adeiladau parod ac adeiladu modiwlaidd. Mae angen y dulliau adeiladu modern hyn i gyflenwi'r nifer ac ansawdd y cartrefi newydd sydd eu hangen arnon ni.
Bydd y prosiect hwn yn cysylltu cleientiaid yr adeiladau, y datblygwyr a'r gadwyn gyflenwi coed a'i gilydd er mwyn cyflenwi cartrefi newydd isel eu carbon mewn modd sy'n manteisio i'r eithaf ar werth cymdeithasol i gymunedau yng Nghymru. Bydd y prosiect yn arddangos achos busnes symbylol ar gyfer ehangu adeiladu a phren a gyrru twf achos economaidd y gweithgynhyrchu oddi ar y safle a'r defnydd o bren cynhenid. Bydd y cynnydd yn y galwad am bren cynhenid yn ei dro yn gyrru'r achos economaidd dros ailgoedwigo yng Nghymru.
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn arwain un o dri phecyn gwaith (WP3) o'r enw 'Mwy a Gwell Cartrefi o Bren', sy'n ceisio gwella perfformiad adeiladu a gweithgynhyrchu anheddau o bren a hefyd gweithredu cartrefi iach ar gyfer eu preswylwyr.
Arweinir WP3 gan Dr John Littlewood o gr?p Amgylchedd Adeiledig Cynaliadwy a Gwydn (SuRBe) https://surbe.org/ mewn cydweithrediad a Gary Newman, Robin Lancashire a Gareth Davies o Woodknowledge Wales, Exova BM Trada a Coed Cymru.
Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo tim Met Caerdydd i gyflenwi WP3 yn benodol i weithredu proses perfformiad adeiladau grwpiau SuRBe mewn nifer o astudiaethau achos tai ar draws Cymru.
Am ragor o wybodaeth, gellir cysylltu a Dr Littlewood ar jlittlewood@cardiffmet.ac.uk
Cefndir
Ers 1996 bu Dr Littlewood yn gweithio ym maes perfformiad adeiladu yn datblygu nifer o brotocolau modelu ac asesu ar gyfer perfformiad thermal, acwsteg a than. O 2009, datblygodd Dr Littlewood y protocol asesu profi wrth adeiladu (iCT) i asesu a oedd adeiladu yn effeithio ar berfformiad a thrwy hynny'n cywiro'r diffygion cyn trosglwyddo'r adeilad i'r preswylydd. Mae Dr Littlewood wedi cynnal nifer o astudiaethau gwerthuso tai ar ol i bobl symud i mewn. Hefyd, o 2013, casglodd Dr Littlewood dystiolaeth ar 'Fwlch Diogelwch' mewn adeiladau; lle y gallai fod sefyllfa na fyddai mesurau diogelwch tan actif a goddefol yn gweithio'n ymarferol mewn adeilad go wir i amddiffyn y preswylwyr, yr achubwyr na'r adeilad. Gan weithio gyda'r Athro George Karani, mae Dr Littlewood wedi datblygu amrediad o ddulliau asesu i ymchwilio i effaith tai ar iechyd a llesiant y preswylwyr.
Bydd y prosiect yn gweithredu yr ystod o brotocolau profi a monitro a ddisgrifiwyd uchod ar nifer o astudiaethau achos tai sydd yn cael eu datblygu'n gyfredol ar draws Cymru.
Crynodeb o'r Rol
Bydd y Cynorthwyydd Ymchwil yn cyfrannu at y rhaglen ymchwil o dan gyfarwyddyd Dr Littlewood a staff eraill SuRBe eraill a staff partner Cartrefi o Bren Cynhenid.
Bydd disgwyl i'r Cynorthwyydd Ymchwil gyfrannu ei arbenigedd/ei harbenigedd diwydiannol a/neu ymchwil i'r prosiect, gan ystyried adolygiadau o unrhyw lenyddiaeth perthnasol i adeiladau o bren, gweithgynhyrchu oddi ar y safle ac asesu perfformiad adeiladau.
Bydd deiliad y swydd yn cyd-ysgrifennu papurau academaidd, cyflwyniadau mewn cynadleddau ac adroddiadau. Bydd e/hi yn rhan annatod o'r tim ymchwil ac yn cyfrannu at gynnyrch sy'n uniongyrchol berthnasol i brosiect Cartrefi o Bren Cynhenid.
Bydd y Cynorthwyydd Ymchwil yn gweithio gyda Dr Littlewood, a staff prosiect Cartrefi o Bren, er mwyn asesu perfformiad adeiladau yn ystod y cyfnod dylunio / adeiladu/gweithgynhyrchu ac ar ol i bobl symud i fewn er mwyn monitro cysur thermal, ac asesu llesiant y preswylwyr.
Bydd y Cynorthwyydd Ymchwil yn gweithio'n agos gyda rhan-ddeiliaid allanol o Gyngor Sir Powys, Llywodraeth Cymru a datblygwyr astudiaeth achos tai. o dan gyfarwyddyd tim y staff
Bydd y Cynorthwyydd Ymchwil yn sicrhau bod cyfrinachedd syniadau a thechnolegau'r prosiect yn cael ei gadw ac i gynnal safonau proffesiynol wrth ddelio gyda phartion allanol.
Bydd y Cynorthwyydd Ymchwil yn cyfrannu at gynnal ac ychwanegu amrediad o fasau data er mwyn storio gwybodaeth am y prosiect o ran agweddau technegol yr ymchwil megis dyluniadau, diagramau, ffeiliau data a chynlluniau technegol. Hefyd cyfrannu at goladu taflennu amser tim Met Caerdydd.
Mae hwn yn gyfle gwych i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio mewn maes ymchwil sydd ar gynnydd gyda chefnogaeth ac arbenigedd tim aml-ddisgyblaeth o Brifysgol Metropolitan Caerdydd a nifer o bartneriaid yn y diwydiant sy'n ymwneud a'r prosiect Cartrefi o Bren Cynhenid.
I weld y pecyn i ymgeiswyr, cliciwch yma