Y Cyfle
Darparu cefnogaeth weinyddol i'r rhaglenni academaidd mewn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd a/neu Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd.
Mae hyn yn cynnwys ymgymryd â phrosesau gweinyddol sy'n ymwneud â sefydlu, a Sefyliadau Partner ble’n bosibl. Bydd deiliad y swydd yn gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer staff a myfyrwyr, yn darparu gwybodaeth gywir am raglenni a modiwlau a gweithio gyda’r rhaglenni ar ystod o weithgareddau drwy gydol y flwyddyn. Bydd deiliad y swydd hefyd yn cefnogi gwaith y Deoniaid Cyswllt Ymgysylltu â Myfyrwyr / Arweinwyr Strategol.
Goruchwylio agweddau gweinyddol sefydlu, croesawu a chofrestru myfyrwyr ar y rhaglenni.
Beth rydym yn chwilio amdano
Pam ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd?
Yn 2020 cafodd y Brifysgol ein henwi’n 'Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021' gan The Sunday Times; yn 2021 cawsom ein henwi’n 'Brifysgol y Flwyddyn y DU ac Iwerddon 2022' gan y Times Higher Education ac yn 2022 cawsom ein rhestru fel y brifysgol orau yn y DU am gynaliadwyedd yng Nghynghrair Werdd People and Planet a’r brifysgol orau yng Nghymru yn yr Arolwg Hynt Graddedigion.
Yn ogystal, mae'r Brifysgol yn cynnig telerau ac amodau hynod gystadleuol gan gynnwys:
Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch ag Yvonne Perkins, Programme Support Manager, yn y yperkins@cardiffmet.ac.uk
Os bydd nifer fawr o geisiadau’n dod i law, efallai y bydd angen inni gau'r swydd wag hon yn gynnar. Felly, rydym yn eich annog i ymgeisio cyn gynted â phosibl.
Mae'r Brifysgol yn ymroddedig i greu diwylliant hynod gynhwysol. Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg a chyfeillgar i deuluoedd ac amrywiaeth o rwydweithiau staff, fforymau a digwyddiadau i gefnogi a datblygu ein pobl. Rydym yn croesawu ceisiadau gan y rheiny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector addysg uwch yn draddodiadol.
Rhagor o wybodaethDarllenwch ein Pecyn Ymgeiswyr neu ewch i'n gwefan recriwtio staff i gael gwybodaeth am weithio inni, ein diwylliant, buddion, cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a'n cyfleoedd ar gyfer camu ymlaen yn eich gyrfa a datblygu.