Y Cyfle
Byddwch yn aelod hanfodol o dîm y neuaddau wrth gynorthwyo staff Rheoli'r Neuaddau i gynnal a chadw llety preswyl y Brifysgol yn effeithlon. Fel y Cynorthwyydd Cynnal a Chadw, byddwch yn cyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau ymarferol ac yn darparu cymorth cyffredinol i helpu i gynnal adeiladwaith yr adeiladau a’u hamgylchoedd. Yn ogystal, byddwch yn cynorthwyo ac yn cydlynu'r ddarpariaeth o wasanaethau yn ystod y cyfnod cynadledda prysur ac yn rhan o dîm sy'n darparu lefelau uchel o ofal cwsmer a darpariaeth gwasanaethau.
Beth rydym yn chwilio amdano
Rydym yn chwilio am rywun sydd â, fel man lleiaf, sgiliau cynnal a chadw sylfaenol o atgyweiriadau o ddydd i ddydd mewn amgylchedd tebyg i un preswyl ynghyd ag ymwybyddiaeth sylfaenol o Iechyd a Diogelwch. Byddwch yn drefnus ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu da oherwydd byddwch yn rhyngweithio â myfyrwyr, gwesteion ac aelodau eraill o staff o bob rhan o'r Brifysgol. Byddwch yn gweithio gyda thîm bach o unigolion ymroddedig felly mae angen profiad blaenorol o weithio mewn tîm. Bydd angen i chi fod yn hyblyg ac yn addasadwy ac â'r gallu i weithio y tu allan i oriau o bryd i'w gilydd.
Oherwydd natur y gwaith sy’n rhaid ei wneud, bydd angen i chi fod yn gorfforol heini ac yn gallu codi a chario eitemau / danfoniadau swmpus.
Pam ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd?
Rydym yn falch iawn ein bod ni wedi ennill dwy wobr fawreddog yn ddiweddar – Prifysgol y Flwyddyn y DU ac Iwerddon 2021 y Times Higher Education a Phrifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021 The Times a The Sunday Times Good University Guide.
Rydym yn Brifysgol sy'n seiliedig ar werthoedd ac mae hynny wedi’i adlewyrchu yn y tîm Preswylfeydd a'r gwasanaethau a ddarparwn i'n myfyrwyr a gwesteion yr haf. Mae rôl y Cynorthwyydd Cynnal a Chadw’n bwysig o ran sicrhau ein bod yn darparu amgylchedd diogel sydd wedi'i gynnal a'i gadw'n dda ar gyfer staff, myfyrwyr a gwesteion. Fe welwch ein bod yn cefnogi’n gilydd, rydym yn garedig i’n gilydd, ac rydym yn un tîm; ni yw Un Met Caerdydd. Rydym yn annog ac yn cofleidio cynhwysiant sy'n galluogi pawb i deimlo eu bod yn cael eu parchu ac yn gallu perfformio ar eu gorau.
Mae rhagor o wybodaeth am ein Gwasanaethau Preswyl ar gael yma: https://www.metcaerdydd.ac.uk/accommodation/Pages/Cyncoed-Campus.aspx
Yn ogystal, mae'r Brifysgol yn cynnig telerau ac amodau hynod gystadleuol gan gynnwys:
Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch â Diane Bryant, Rheolwr Neuaddau, Cyncoed, ar dbryant@cardiffmet.ac.uk
Nid oes angen i ymgeiswyr blaenorol wneud cais.
Os bydd nifer fawr o geisiadau’n dod i law, efallai y bydd angen inni gau'r swydd wag hon yn gynnar. Felly, rydym yn eich annog i ymgeisio cyn gynted â phosibl.
Mae'r Brifysgol yn ymroddedig i greu diwylliant hynod gynhwysol. Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg a chyfeillgar i deuluoedd ac amrywiaeth o rwydweithiau staff, fforymau a digwyddiadau i gefnogi a datblygu ein pobl. Rydym yn croesawu ceisiadau gan y rheiny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector addysg uwch yn draddodiadol.
Rhagor o wybodaethDarllenwch ein Pecyn Ymgeiswyr neu ewch i'n gwefan recriwtio staff i gael gwybodaeth am weithio inni, ein diwylliant, buddion, cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a'n cyfleoedd ar gyfer camu ymlaen yn eich gyrfa a datblygu.