Teitl y Swydd:
Ymarferydd Lles
Ysgol / Uned:
Y Gwasanaeth Lles (Gwasanaethau Myfyrwyr)
Lleoliad:
Campws Cyncoed a Llandaf, Caerdydd
Cyflog:
6A/B, £35,326 - £39,739 y flwyddyn
Oriau:
37 awr yr wythnos
Daliadaeth:
Cyfnod Penodol tan 29/07/2022
Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021 gan The Times and The Sunday Times Good University Guide.
Mae ein perfformiad yng nghanllaw eleni yn eithriadol. Ein Prifysgol ddangosodd y cynnydd mwyaf yng Nghymru, a'r trydydd mwyaf yn y DU, gan ein rhoi yn y 40 uchaf yn y DU ar gyfer boddhad myfyrwyr ag ansawdd addysgu a phrofiad ehangach myfyrwyr.
Rydym yn falch iawn bod ein perfformiad cryf wedi golygu bod y Brifysgol wedi denu niferoedd uchel o fyfyrwyr â chymwysterau da ac rydym bellach yn chwilio am staff ychwanegol yn ein hysgolion academaidd a'n hadrannau gwasanaethau proffesiynol.
Y Cyfle
Mae Gwasanaethau Myfyrwyr a Chyflogadwyedd yn rhoi llwyddiant myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, o gefnogi myfyrwyr yn eu hastudiaethau i'w paratoi ar gyfer y dyfodol. Mae'r tîm yn cynnwys: Llesiant ac Anabledd, Cymorth Dysgu, Cyngor Myfyrwyr, Gyrfaoedd, Lleoliadau, Ymgysylltu â Chyflogwyr, a GO Wales, gyda chefnogaeth y Tîm Gweithrediadau. Gan weithio mewn amgylchedd llawn cymhelliant, cyfeillgar a ffyddiog , rydym yn ymdrechu i ddarparu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr. Rydym yn helpu myfyrwyr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd i deimlo eu bod yn cael cefnogaeth i lwyddo ac yn barod ar gyfer eu camau nesaf.
Bydd gofyn i chi ddatblygu a darparu ystod o ymyriadau therapiwtig ac ymyriadau’n seiliedig ar gryfder chryfder o ddwysedd isel i gynorthwyo myfyrwyr sy'n profi problemau iechyd a lles emosiynol isel i gymedrol.
Bydd yr ymyriadau hyn yn ymgorffori gweithgareddau grŵp, unigol ac ar-lein i gynorthwyo myfyrwyr i barhau i ymgysylltu â'u hastudiaethau a datblygu'r sgiliau a'r adnoddau sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn eu gyrfa prifysgol a thu hwnt.
Beth fyddwch chi'n ei wneud - dyletswyddau allweddol
Beth fyddwch chi'n cyfrannu - profiad a chryfderau hanfodol
Beth fydd gennych chi - cymwysterau hanfodol
Cymhwyster Lefel gradd neu gyfwerth
Cymhwyster perthnasol i lefel diploma wedi'i gydnabod gan gorff proffesiynol (BACP, UKCP, BPS, HCPC, IAPT ac ati)
Ein pecyn gwobrwyo cyfan
Mae gennym amrywiaeth o fanteision mawr i weithwyr gan gynnwys:
Gwyliau blynyddol o 35 diwrnod, ynghyd â 12 gŵyl banc / diwrnod rhatach
Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gyda chyfraniadau hael
Cyfleoedd gweithio hyblyg ac o bell
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd arobryn gydag aelodaeth â chymhorthdal, ynghyd â ffisiotherapi â chymhorthdal/therapi cyflenwol/tylino chwaraeon
Mynediad i holl gyfleusterau’r llyfrgell
Cynlluniau aberthu cyflog gan gynnwys beicio i'r gwaith
Sut i wneud cais
Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch ag Neil Davies, Pennaeth Lles Myfywyr, yn y ddavies@cardiffmet.ac.uk neu i gael rhagor o wybodaeth am weithio yn y Brifysgol ewch i'n gwefan recriwtio.
Dyddiad cau: lundi 25 octobre 2021, 4:30 pm.
Os bydd nifer fawr o geisiadau'n dod i law, efallai y bydd angen i ni gau'r swydd wag hon yn gynnar. Felly, rydym yn eich annog i wneud cais cyn gynted â phosibl.
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol. Mae ein Cynllun Strategol yn sail i'n hymrwymiad i recriwtio a chadw'r dalent orau ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o gefndiroedd amrywiol. Rydym yn penodi ar sail teilyngdod.
Oherwydd y pandemig coronafeirws, mae ein holl recriwtio'n cael ei gynnal yn rhithiol. Ein nod yw ymateb i'ch cais cyn gynted â phosibl.
Rhagor o Wybodaeth
Disgrifiad Swydd Llawn a Manyleb y Person
Ein Pecyn Ymgeisydd
Ewch i'n gwefan i gael gwybodaeth am weithio i ni, ein diwylliant, ein manteision, ein cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a'n cyfleoedd i ddatblygu a datblygu gyrfa.