Mae hon yn swydd allweddol a fydd yn cyfrannu at uchelgais Cynllun Strategol y Brifysgol 2017/18 - 2022/23
Mae'r swydd hon yn gofyn am unigolyn hyblyg, ymroddedig a brwdfrydig sydd a sgiliau gofal cwsmer rhagorol ac sy'n awyddus i ddarparu profiad cadarnhaol ar gyfer pob ymholiad a dderbynnir ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, boed dros y ffon neu yn bersonol. Wedi'ch lleoli yng Ngampws Llandaf, byddwch yn caffael gwybodaeth fanwl o'r Brifysgol ac yn darparu gwasanaeth cleientiaid effeithlon ac effeithiol i fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr yn unol a gweithdrefnau gweithredu arferol ac mewn argyfwng.
Fel Derbynnydd Campws Prifysgol Metropolitan Caerdydd, bydd gennych chi ymddangosiad proffesiynol, yn gwisgo gwisg swyddogol a hyrwyddo agwedd groesawgar a gofalgar bob amser.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg llafar sylfaenol yn ofyniad hanfodol ar gyfer y rol hon.
I weld y Disgrifiad Swydd lawn a Manyleb y Person cliciwch yma
I weld y pecyn i ymgeiswyr, cliciwch yma
I ddarllen y Cynllun Strategol, ewch i dudalen 5 y pecyn i ymgeiswyr.