Teitl y Swydd:
Rheolwr Tîm Diogelwch TG
Ysgol/Uned:
Gwasanaethau Gwybodaeth
Lleoliad:
Campws Llandaf, Caerdydd
Cyflog:
Gradd 7A/B, £40,927 - £46,042 y flwyddyn
Oriau:
37 awr yr wythnos
Deiliadaeth:
Parhaol
Ni yw’r Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021 gan The Times a The Sunday Times Good University Guide.
Mae ein perfformiad yn y Canllaw eleni yn eithriadol. Ein Prifysgol wnaeth y cynnydd mwyaf yng Nghymru, a'r trydydd mwyaf yn y DU, gan ein gosod yn y 40 uchaf yn y DU ar gyfer boddhad myfyrwyr gydag ansawdd addysgu a phrofiad ehangach myfyrwyr.
Y CyfleMae Met Caerdydd yn buddsoddi mewn Tîm Diogelwch TG pwrpasol newydd er mwyn creu gwelliant sylweddol yn ein gallu i ddelio â bygythiadau diogelwch a rhoi’r offer a’r cyngor sydd eu hangen ar y sefydliad i leihau’r risg bosibl o amgylch Diogelwch TG. Bydd y tîm ac adnoddau newydd yn gyrru diwylliant a fydd yn croesawu'r gallu i gael effaith sylweddol i baratoi ar gyfer ymosodiadau Diogelwch TG ac ymateb iddynt.
Bydd y rol allweddol yma yn cynnig y cyfle i chi reoli'r Tîm Diogelwch TG, i gefnogi a datblygu'r technolegau diogelwch TG sy'n monitro am fygythiadau ac yn amddiffyn y Brifysgol. Yn benodol, byddwch yn darparu cyngor, arweiniad a sicrwydd i'r Brifysgol ar faterion TG a seiberddiogelwch, gan sicrhau bod technolegau a gweithdrefnau priodol ar waith i ddiogelu gwasanaethau a data Met Caerdydd.
Byddwch yn arwain datblygiadau penodol yn unol â gofynion busnes a mapiau ffordd isadeiledd sy'n gofyn am radd uchel o gydlynu, cyfranogiad technegol ac arbenigedd. Yn y swydd hon chi fydd y prif gyswllt ar gyfer y wybodaeth ddiweddaraf a mwyaf perthnasol yn ymwneud â gweithrediadau a strategaeth TG a seiberddiogelwch ar gyfer y Brifysgol. Byddwch hefyd yn arwain datblygiadau penodol yn unol â gofynion busnes a mapiau ffordd isadeiledd, a fydd yn gofyn am radd uchel o gydlynu, cyfranogiad technegol ac arbenigedd.
Os mai chi yw hwn/hon, a bod creu amgylchedd diogel sy'n caniatáu i'n myfyrwyr a'n staff weithio ac astudio’n ddiogel o bwys i chi, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Beth fyddwch chi’n ei gynnig - profiad a chryfderau hanfodol
Pam ymuno â ni?
Credwn yn gryf mai ein pobl yw'r adnodd pwysicaf ac, fel adran dechnolegol, mae ein datblygiad fel gweithwyr proffesiynol yn hanfodol bwysig i ni barhau i ddarparu gwasanaethau o’r radd flaenaf. Rydym yn cefnogi datblygiad ein staff sy’n cymhwyso gwerthoedd ac ymddygiadau’r Brifysgol yn ein timau. Mae gennym raglenni datblygu proffesiynol a gyrfaol, sy'n anelu at roi cefnogaeth briodol i'n tîm i gyflawni uchelgeisiau gyrfa.
Mae gennym ystod o fuddion gwych i gyflogeion gan gynnwys:
Wrth wneud cais am y swydd hon, cyflwynwch CV a llythyr eglurhaol yn egluro sut rydych chi'n cwrdd â'r holl feini prawf hanfodol os gwelwch yn dda (cyfeiriwch at Fanyleb y Person yn y Swydd-ddisgrifiad).
Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch â Mark John, Rheolwr Gwasanaethau Seilwaith TG: majohn@cardiffmet.ac.uk
Pe bai nifer uchel o geisiadau yn cael eu derbyn, efallai y bydd angen i ni gau'r swydd wag hon yn gynnar. Felly rydym yn eich annog i wneud cais mor gynnar â phosibl.
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol. Mae ein Cynllun Strategol yn sail i'n hymrwymiad i recriwtio a chadw'r dalent orau ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o gefndiroedd amrywiol. Rydym yn penodi yn ôl teilyngdod.
Mwy o wybodaeth
Swydd-ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn
Datblygu Diogelwch TG Technoleg Gwybodaeth
Ein Pecyn Ymgeiswyr
Oherwydd pandemig y coronafeirws, mae ein holl recriwtio’n cael ei gynnal yn rhithiol. Ein nod yw ymateb i'ch cais cyn gynted â phosibl.