Rydym yn falch iawn o fod wedi ennill dwy wobr fawreddog yn ddiweddar - Prifysgol y Flwyddyn y DU ac Iwerddon 2021 gan y Times Higher Education a Phrifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021 gan The Times a The Sunday Times Good University Guide.
Y Cyfle
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn brifysgol ryngwladol sy'n edrych tuag allan ac sydd ag enw da yn fyd-eang am addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel. Mae Ymgysylltu Byd-eang wrth wraidd gwaith rhyngwladol y Brifysgol, ac mae’n cefnogi myfyrwyr rhyngwladol trwy eu taith myfyriwr; gweithio gyda phartneriaid byd-eang i ddarparu rhaglenni Met Caerdydd dramor, a darparu cyfleoedd rhyngwladol i fyfyrwyr, staff a phartneriaid, gan feithrin agwedd fyd-eang ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol.
Gan weithio gyda'r Gwasanaeth Cynghori Myfyrwyr Byd-eang, byddwch yn rhoi cymorth i fyfyrwyr rhyngwladol newydd o'r adeg y byddant yn cofrestru, pan fyddant yn cyrraedd y DU a thrwy gydol misoedd cyntaf eu hastudiaethau. Byddwch yn ateb ymholiadau, yn cyfeirio myfyrwyr at wasanaethau priodol, yn cynghori ar brosesau'r DU a'r Brifysgol ac yn helpu myfyrwyr i addasu i ddiwylliant Prydain a bywyd fel myfyriwr.
Byddwch yn rhoi cymorth i fyfyrwyr sy'n cychwyn eu cyrsiau ym mis Medi 2022 a mis Ionawr 2023 yn bennaf, gyda dyletswyddau ychwanegol drwy gydol y flwyddyn lle bo angen.
Byddwch yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig a chyfeillgar gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol ynghyd ag ymrwymiad i ddarparu profiad rhagorol i fyfyrwyr.
Beth fyddwch chi'n ei wneud - dyletswyddau allweddol
Beth fyddwch chi’n ei gyfrannu - profiad a chryfderau hanfodol
Beth fydd gennych chi - cymwysterau hanfodol
Rhaid ichi fod wedi cofrestru ar gwrs israddedig neu ôl-raddedig ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ar hyn o bryd.
Ein pecyn gwobrwyo cyfan
Mae gennym gasgliad o fuddion gwych gan gynnwys:
Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori Myfyrwyr Byd-eang ar intstudentadvice@cardiffmet.ac.uk
Os bydd nifer fawr o geisiadau'n dod i law, efallai y bydd angen inni gau'r swydd wag hon yn gynnar. Felly, rydym yn eich annog i wneud cais cyn gynted â phosibl.
Mae'r brifysgol wedi ymrwymo i greu diwylliant cynhwysol iawn. Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg a chyfeillgar i deuluoedd ac amrywiaeth o rwydweithiau staff, fforymau a digwyddiadau i gefnogi a datblygu ein staff. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion heb gynrychiolaeth digonol yn y sector addysg uwch.
Gwybodaeth bellachDarllenwch ein Pecyn Ymgeisydd neu ewch i'n gwefan recriwtio staff i gael gwybodaeth am weithio i ni, ein diwylliant, buddion, cydbwysedd bywyd a gwaith a'n cyfleoedd datblygu a datblygu gyrfa.