Rydym yn falch iawn o fod wedi ennill dwy wobr fawreddog yn ddiweddar - Prifysgol y Flwyddyn y DU ac Iwerddon 2021 gan y Times Higher Education a Phrifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021 gan The Times a The Sunday Times Good University Guide.
Y Cyfle
Rydym yn chwilio am fyfyrwyr brwdfrydig i ymuno â'n Tîm Llysgenhadon mewn Marchnata a Chysylltiadau Allanol. Mae Llysgenhadon Myfyrwyr yn gweithio mewn digwyddiadau recriwtio fel Diwrnodau Agored, diwrnodau blasu, a ffeiriau UCAS ar gyfer Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae'r rôl yn fwy amrywiol ers COVID a chyfyngiadau symud ac mae cyfleoedd i fod yn rhan o Vlogs a chyflwyniadau rhithwir. Rydym yn chwilio am rywun a all rannu eu profiad gyda darpar fyfyrwyr mewn ysgolion a cholegau.
Beth fyddwch chi'n ei wneud - dyletswyddau allweddol
Beth ddewch chi i’r rôl - profiad a chryfderau hanfodol
Beth fydd gennych chi - cymwysterau hanfodol
Cyfanswm ein pecyn gwobrwyo
Mae gennym ystod o fuddion gwych gan gynnwys:
Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch â Sandra Veasey Cydlynydd Llysgenhadon Myfyrwyr, drwy anfon e-bost at studentambassadors@cardiffmet.ac.uk neu am ragor o wybodaeth am weithio gyda ni yn ein Prifysgol ewch I’n gewfan recriwtio.
Gallwch ddod o hyd I sesiynau cymorth gan Gyrfaoedd ym Me Caerdydd ar wneud cais am rôl llysgennad myfyrwyr ar Met Hub I helpu gyda’ch cais.
I wneud cais, anfonwch e-bost at studentambassadors@cardiffmet.ac.uk am ragor o wybodaeth.
Os bydd nifer fawr o geisiadau'n dod i law, efallai y bydd angen inni gau'r swydd wag hon yn gynnar. Felly, rydym yn eich annog i wneud cais cyn gynted â phosibl.
Mae'r brifysgol wedi ymrwymo i greu diwylliant cynhwysol iawn. Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg a chyfeillgar i deuluoedd ac amrywiaeth o rwydweithiau staff, fforymau a digwyddiadau i gefnogi a datblygu ein staff. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion heb gynrychiolaeth digonol yn y sector addysg uwch.
Gwybodaeth bellachDarllenwch ein Pecyn Ymgeisydd neu ewch i'n gwefan recriwtio staff i gael gwybodaeth am weithio i ni, ein diwylliant, buddion, cydbwysedd bywyd a gwaith a'n cyfleoedd datblygu a datblygu gyrfa.