Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021 gan The Times and The Sunday Times Good University Guide.
Mae ein perfformiad yng nghanllaw eleni yn eithriadol. Ein Prifysgol ddangosodd y cynnydd mwyaf yng Nghymru, a'r trydydd mwyaf yn y DU, gan ein rhoi yn y 40 uchaf yn y DU ar gyfer boddhad myfyrwyr ag ansawdd addysgu a phrofiad ehangach myfyrwyr.
Rydym yn falch iawn bod ein perfformiad cryf wedi golygu bod y Brifysgol wedi denu niferoedd uchel o fyfyrwyr â chymwysterau da ac rydym bellach yn chwilio am staff ychwanegol yn ein hysgolion academaidd a'n hadrannau gwasanaethau proffesiynol.
Y cyfle
Mae PDR yn ganolfan ymgynghori dylunio fyd-eang flaenllaw ac yn ganolfan ymchwil gymhwysol wedi’i lleoli yng Nghaerdydd. Mae PDR yn gweithio ar draws ystod eang o ddiwydiannau a bydd y rôl hon yn canolbwyntio ar farchnata gweithgareddau PDR i gynulleidfa ryngwladol eang.
Bydd rôl y Swyddog Cyfryngau Digidol a Marchnata yn gweithio ar draws timau PDR i ddarparu cymorth marchnata ar gyfer marchnata a hyrwyddo gweithrediadau PDR.
Mae'r rôl hon yn chwarae rhan allweddol o fewn y tîm marchnata yn PDR gan ganolbwyntio ar hyrwyddo PDR a datblygu ymgyrchoedd ar draws ein gwefan a sianelau digidol eraill. Mae hyn yn cynnwys cyflawni a mesur perfformiad ein holl allbwn digidol a chadw ein cynnwys, yn berthnasol ac yn ddeniadol. Mae hon yn rôl eang a chydweithredol sy'n gyfrifol am weithgarwch cyfathrebu a marchnata mewnol ac allanol gan weithio mewn partneriaeth â'r tîm Datblygu Busnes i adeiladu seilwaith cryf i gefnogi twf yn y dyfodol.
Lleolir y swydd hon yn PDR, sydd wedi'i lleoli yng Nghaerdydd. Mae hon yn swydd cyfnod penodol o 12 mis a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei reoli gan Reolwr y Swyddfa.
Beth fyddwch chi'n ei wneud - dyletswyddau allweddol
Beth fyddwch chi’n ei gyfrannu - profiad a chryfderau hanfodol
Beth fydd gennych chi - cymwysterau hanfodol
Cyfanswm ein pecyn gwobrwyo
Mae gennym ystod o fuddion gwych i weithwyr gan gynnwys:
Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch â Gemma Burridge: gburridge@pdr-design.com
Pe bai nifer uchel o geisiadau yn cael eu derbyn, efallai y bydd angen i ni gau'r swydd wag hon yn gynnar. Felly rydym yn eich annog i wneud cais mor gynnar â phosibl.
Mae'r Brifysgol yn ymroddedig i greu diwylliant hynod gynhwysol. Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg a chyfeillgar i deuluoedd ac amrywiaeth o rwydweithiau staff, fforymau a digwyddiadau i gefnogi a datblygu ein pobl. Rydym yn croesawu ceisiadau gan y rheiny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector addysg uwch yn draddodiadol.
Rhagor o wybodaeth Darllenwch ein Pecyn Ymgeiswyr neu ewch i'n gwefan recriwtio staff i gael gwybodaeth am weithio inni, ein diwylliant, buddion, cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a'n cyfleoedd ar gyfer camu ymlaen yn eich gyrfa a datblygu.