Rydym yn falch iawn o fod wedi ennill dwy wobr fawreddog eleni – Prifysgol y Flwyddyn y DU ac Iwerddon gan y Times Higher Education UK University of the Year 2021 a Phrifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021 gan The Times and The Sunday Times Good University Guide.
Mae ein perfformiad yng nghanllaw eleni yn eithriadol. Ein Prifysgol ddangosodd y cynnydd mwyaf yng Nghymru, a'r trydydd mwyaf yn y DU, gan ein rhoi yn y 40 uchaf yn y DU ar gyfer boddhad myfyrwyr ag ansawdd addysgu a phrofiad ehangach myfyrwyr.
Rydym yn falch iawn bod ein perfformiad cryf wedi golygu bod y Brifysgol wedi denu niferoedd uchel o fyfyrwyr â chymwysterau da ac rydym bellach yn chwilio am staff ychwanegol yn ein hysgolion academaidd a'n hadrannau gwasanaethau proffesiynol.
Rydym yn falch iawn o allu recriwtio i'n Tîm Gwasanaeth Seilwaith TG ac ar hyn o bryd, rydym yn gobeithio siarad ag ymgeiswyr sy'n frwdfrydig, sydd wrth eu bodd yn datrys problemau ac sydd eisiau datblygu eu sgiliau.
Mae'r rôl yn rhan o Wasanaeth Gwybodaeth (GG) uchel ei pharch ac mae'n gweithio'n agos gyda'r timau Cymorth i Ddefnyddwyr a Datblygu Meddalwedd i gyflawni nodau'r Brifysgol.
Gan weithio ochr yn ochr â'r timau Rhwydwaith a Systemau, byddwch yn gyfrifol am gymorth technegol, gweinyddu a datblygu systemau diogelwch TG y Brifysgol. Yn cyflawni tasgau cyflunio, monitro rhagweithiol, cynnal a chadw, cymorth a datblygu, yn ôl yr angen, er mwyn sicrhau cyfrinachedd, uniondeb ac argaeledd gwasanaethau digidol a data'r Brifysgol.
Mae'r rôl yn cynnwys ond nid yw’n gyfyngedig i:
Os yw’r uchod yn berthnasol i chi, a bod creu amgylchedd diogel sy'n caniatáu i'n myfyrwyr a'n staff weithio ac astudio'n ddiogel yn bwysig ichi, byddem yn falch iawn o glywed gennych.
Credwn yn gryf mai ein pobl yw'r adnodd pwysicaf ac, fel adran dechnegol, mae ein datblygiad fel gweithwyr proffesiynol yn hanfodol bwysig er mwyn inni barhau i ddarparu gwasanaethau o’r radd flaenaf. Rydym yn frwd dros ddatblygiad ein staff gan roi gwerthoedd ac ymddygiadau’r Brifysgol ar waith yn ein timau. Mae gennym raglenni datblygu proffesiynol a gyrfa sy'n anelu at roi'r holl gymorth sydd ei angen ar ein tîm i gyflawni eu nodau proffesiynol a phersonol.
Mae gennym gasgliad o fuddion gwych i weithwyr gan gynnwys:
Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch â David Hills, Rheolwr Tîm Rhwydweithiau TG ar dhhills@cardiffmet .ac.uk
Os bydd nifer fawr o geisiadau’n dod i law, efallai y bydd angen inni gau'r swydd wag hon yn gynnar. Felly rydym yn eich annog i wneud cais mor gynnar â phosibl.
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol. Mae ein Cynllun Strategol yn sail i'n hymrwymiad i recriwtio a chadw'r dalent orau ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o gefndiroedd amrywiol. Rydym yn penodi ar sail teilyngdod
Rhagor o Wybodaeth
Ein Pecyn i Ymgeiswyr
Ewch i'n gwefan i gael gwybodaeth am weithio inni, ein diwylliant, buddion, cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a'n cyfleoedd ar gyfer camu ymlaen yn eich gyrfa a datblygu.