Teitl y Swydd:
Swyddog Datblygu Effaith Gymdeithasol
Ysgol / Uned:
Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi — Canolfan Entrepreneuriaeth
Lleoliad:
Campws Llandaf, Caerdydd - gyda hyblygrwydd i weithio o gartref
Cyflog:
4A/B, £25,627 - £30,497 y flwyddyn
Oriau:
37 awr yr wythnos
Daliadaeth:
Cyfnod penodol o 2 flynedd o ddyddiad y
Rydyn ni'n falch iawn ein bod ni wedi ennill dwy wobr fawreddog eleni - Prifysgol y Flwyddyn 2021 gan y Times Higher Education a'r Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021 gan The Times a The Sunday Times Good University Guide.
Mae ein perfformiad yng nghanllaw eleni yn eithriadol. Ein Prifysgol ddangosodd y cynnydd mwyaf yng Nghymru, a'r trydydd mwyaf yn y DU, gan ein rhoi yn y 40 uchaf yn y DU ar gyfer boddhad myfyrwyr ag ansawdd addysgu a phrofiad ehangach myfyrwyr.
Rydym yn falch iawn bod ein perfformiad cryf wedi golygu bod y Brifysgol wedi denu niferoedd uchel o fyfyrwyr â chymwysterau da ac rydym bellach yn chwilio am staff ychwanegol yn ein hysgolion academaidd a'n hadrannau gwasanaethau proffesiynol.
Y Cyfle
Mae'r Ganolfan Entrepreneuriaeth yn gweithio i ysbrydoli, galluogi a chefnogi gweithgarwch entrepreneuraidd ar draws Prifysgol Fetropolitan Caerdydd. Mae'r tîm sydd wedi ennill gwobrau yn darparu ystod amrywiol o ddeunyddiau, digwyddiadau, gweithgareddau a gweithdai sydd wedi'u cynllunio i annog ac arwain myfyrwyr a graddedigion entrepreneuraidd.
Bydd y Swyddog Datblygu Effaith Gymdeithasol yn galluogi myfyrwyr i weithio tuag at gyflawni 17 Nod Datblygu Strategol (SDG) y Cenhedloedd Unedig ac uchelgais Llywodraeth Cymru i wneud menter gymdeithasol yn fodel busnes o ddewis erbyn 2030. Gwna hyn drwy gefnogi'r Tîm Enactus presennol, codi proffil Mentrau Cymdeithasol a chefnogi myfyrwyr i weithredu i greu gwerth ac effaith gymdeithasol naill ai drwy weithredu unigol, neu drwy strwythurau presennol megis cymdeithasau a chlybiau.
Byddwch yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig a chyfeillgar gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog ynghyd ag ymrwymiad i ddarparu profiad rhagorol i fyfyrwyr.
Beth fyddwch chi'n ei wneud - dyletswyddau allweddol Byddwch yn gweithio mewn partneriaeth ag Undeb y Myfyrwyr i gefnogi Tîm Enactus Arobryn Met Caerdydd, gan ddod yn brif Gynghorydd Prifysgol iddynt.
Gan weithio gyda'r Hyrwyddwr Menter, byddwch yn cynllunio a threfnu digwyddiadau a gweithgareddau sy'n cyd-fynd ag amcanion y rôl, gan weithio'n annibynnol ar weithgareddau syml ac mewn cydweithrediad ar ymyriadau mwy cymhleth.Byddwch yn ymgysylltu â myfyrwyr drwy weithgarwch marchnata, cysylltu â grwpiau a gweithdai a thrwy sgyrsiau 1 i 1. Bydd eich brwdfrydedd a'ch ymrwymiad i gynaliadwyedd yn ei ystyr ehangaf yn ysbrydoli myfyrwyr ac eraill i ymgysylltu â'r pwnc hwn ac i weithredu’n gynaliadwy dros eraill.
Beth fyddwch chi'n cyfrannu - profiad a chryfderau hanfodolBydd gennych ddealltwriaeth dda o ddatblygu cynaliadwy ochr yn ochr â gwybodaeth am Fentrau Cymdeithasol a Busnesau Cymdeithasol a byddwch wedi ymrwymo’n llwyr i hyrwyddo'r dulliau hyn. Bydd gennych brofiad o weithio gyda myfyrwyr ac o gyflawni prosiectau sydd ag effaith gymdeithasol neu amgylcheddol. Bydd eich sgiliau cyfathrebu cryf yn hanfodol i'r rôl, yn ogystal â pharodrwydd i weithio mewn amgylchedd tîm.
Beth fydd gennych chi - cymwysterau hanfodolGradd mewn unrhyw bwnc.
Ein pecyn gwobrwyo cyfan
Mae gennym amrywiaeth o fanteision mawr i weithwyr gan gynnwys:
Gwyliau blynyddol o 25 diwrnod, gan godi i 30 diwrnod ar ôl blwyddyn o wasanaeth, yn ogystal â 12 gŵyl banc / diwrnod consesiynol
Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gyda chyfraniadau hael
Cyfleoedd gweithio hyblyg ac o bell
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd arobryn gydag aelodaeth â chymhorthdal, ynghyd â ffisiotherapi â chymhorthdal/therapi cyflenwol/tylino chwaraeon
Mynediad i holl gyfleusterau’r llyfrgell
Cynlluniau aberthu cyflog gan gynnwys beicio i'r gwaith
Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch ag Steve Aicheler, Rheolwr Entrepreneuriaeth, yn y saicheler@cardiffmet.ac.uk neu i gael rhagor o wybodaeth am weithio yn y Brifysgol ewch i'n gwefan recriwtio.
Os bydd nifer fawr o geisiadau'n dod i law, efallai y bydd angen i ni gau'r swydd wag hon yn gynnar. Felly, rydym yn eich annog i wneud cais cyn gynted â phosibl.
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol. Mae ein Cynllun Strategol yn sail i'n hymrwymiad i recriwtio a chadw'r dalent orau ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o gefndiroedd amrywiol. Rydym yn penodi ar sail teilyngdod.
Oherwydd y pandemig coronafeirws, mae ein holl recriwtio'n cael ei gynnal yn rhithiol. Ein nod yw ymateb i'ch cais cyn gynted â phosibl.
Rhagor o Wybodaeth
Disgrifiad Swydd Llawn a Manyleb y Person
Ein Pecyn Ymgeisydd
Ewch i'n gwefan i gael gwybodaeth am weithio i ni, ein diwylliant, ein manteision, ein cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a'n cyfleoedd i ddatblygu a datblygu gyrfa.