Teitl y Swydd:
Darlithydd mewn Adsefydlu Chwaraeon
Ysgol/Uned:
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
Lleoliad:
Campws Cyncoed a Llandaf, Caerdydd
Cyflog:
Gradd 7A/B, £40,927 - £46,042 y flwyddyn
Oriau:
37 awr yr wythnos
Daliadaeth:
Parhaol
Rydyn ni'n falch iawn ein bod ni wedi ennill dwy wobr fawreddog eleni - Prifysgol y Flwyddyn 2021 gan y Times Higher Education a'r Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021 gan The Times a The Sunday Times Good University Guide.
Mae ein perfformiad yng nghanllaw eleni yn eithriadol. Ein Prifysgol ddangosodd y cynnydd mwyaf yng Nghymru, a'r trydydd mwyaf yn y DU, gan ein rhoi yn y 40 uchaf yn y DU ar gyfer boddhad myfyrwyr ag ansawdd addysgu a phrofiad ehangach myfyrwyr.
Rydym yn falch iawn bod ein perfformiad cryf wedi golygu bod y Brifysgol wedi denu niferoedd uchel o fyfyrwyr â chymwysterau da ac rydym bellach yn chwilio am staff ychwanegol yn ein hysgolion academaidd a'n hadrannau gwasanaethau proffesiynol.
Y Cyfle
Mae Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd yn ganolfan ragoriaeth gydnabyddedig yn y DU sydd wedi sefydlu enw da cenedlaethol a rhyngwladol am ansawdd ei gwaith academaidd ac ymchwil ym meysydd chwaraeon a gwyddorau iechyd. Wedi'i leoli ar draws campysau Cyncoed a Llandaf, rydym yn darparu ystod eang o raglenni academaidd â ffocws galwedigaethol ac yn ymfalchïo mewn adborth da gan fyfyrwyr a chyflogadwyedd rhagorol i raddedigion. Mae llawer o'n rhaglenni wedi'u hachredu'n broffesiynol i fodloni gofynion y proffesiynau chwaraeon a gofal iechyd ac rydym yn ymgysylltu'n agos â diwydiant i ddarparu gwasanaethau ymgynghori a rhaglenni datblygiad proffesiynol. Mae ein Hysgol hefyd yn cyflwyno diwylliant ymchwil ffyniannus, gyda dros 100 o fyfyrwyr PhD ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau. Mae llesiant ein staff, ein myfyrwyr a'n cymuned leol yn sail i bopeth a wnawn wrth i ni barhau i ychwanegu gwerth trwy ein haddysgu, ein arloesedd a'n hymchwil.
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau
Bydd gofyn i chi wneud cyfraniad sylweddol at gyflawni ein portffolio addysgu gan gyfrannu at gyflwyno ein BSc Cyflyru, Adsefydlu a Thylino Chwaraeon a’r MSc Adsefydlu Chwaraeon a meysydd eraill o'n cwricwlwm craidd yn dibynnu ar eich meysydd arbenigedd a phrofiad. Yn frwdfrydig am addysgeg myfyriwr-ganolog, byddwch yn cyfrannu at ddarparu addysg, gan gynnwys rheoli rhaglenni yn ôl yr angen, ar draws yr ystod o raglenni israddedig ac ôl-raddedig. Byddwch hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol at gyflogadwyedd, ac ymgysylltiad proffesiynol â sefydliadau mewnol ac allanol perthnasol, ar lefel ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol.
Bydd disgwyl i chi fod â phrofiad clinigol, gan gynnwys mewn lleoliad chwaraeon proffesiynol/lefel uchel, sy'n eich galluogi i gyfrannu at ein clinig Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff a'n clinig addysgu. Mae ymgeiswyr sydd â phroffil ymchwil gweithredol hefyd yn ddymunol.
Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano - Profiad a Chryfderau
Lefel dda o wybodaeth sy'n berthnasol i'r pwnc a'r maes proffesiynol.
Profiad clinigol mewn adsefydlu chwaraeon
Dealltwriaeth gadarn o addysgeg.
Dealltwriaeth gadarn o ymchwil/arloesi a gweithgaredd ysgolheigaidd.
Y gallu i ddatblygu rhaglenni addysgu a/neu ymchwil a darparu cymorth dysgu.
Y gallu i ddylunio deunydd addysgu a dysgu.
Y gallu i ddefnyddio dulliau asesu priodol.
Y gallu i adnabod meysydd i'w gwella a defnyddio sgiliau menter a datrys problemau i wella perfformiad.
Y gallu i gyfathrebu a lledaenu syniadau cymhleth a chysyniadol mewn amryw o ffyrdd - cyflwyniadau mewn cynadleddau, adroddiadau ar ganfyddiadau, cyhoeddiadau, adborth ac ati.
Mae profiad o addysgu AU neu gyfwerth yn ddymunol.
Profiad o ddarparu arweinyddiaeth academaidd a chefnogaeth/mentora llinell gyntaf i gydweithwyr eraill.
Byddwch yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig a chyfeillgar gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol ynghyd ag ymrwymiad i ddarparu profiad myfyriwr rhagorol. Mae proffil gadarn ym maes adsefydlu chwaraeon yn hanfodol, ac mae profiad o addysgu a goruchwyliaeth glinigol myfyrwyr ar raglenni perthnasol yn ddymunol.
I fod yn llwyddiannus byddwch yn cyfoethogi profiad ein myfyrwyr ymhellach trwy eich arbenigedd a'ch gwybodaeth bwnc fel y gwelir yn eich cymwysterau a'ch profiad.
Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano - Cymwysterau Hanfodol
Gradd anrhydedd da.
Gradd ôl-raddedig a/neu gymhwyster proffesiynol
Cymhwyster doethuriaeth
O leiaf 5 mlynedd o brofiad gwaith clinig
Y gallu i gyflawni Statws Cymrawd fel rhan o gynllun Cydnabyddiaeth Broffesiynol yr Academi Addysg Uwch, o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt (cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol bosibl ac yn bendant o fewn tair blynedd i ddechrau'r gyflogaeth).
Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch â’r Athro Jon Oliver trwy e-bostio joliver@cardiffmet.ac.uk neu i gael rhagor o wybodaeth am weithio gyda ni yn ein Prifysgol, ewch i'n wefan.
Pe bai nifer uchel o geisiadau yn cael eu derbyn, efallai y bydd angen i ni gau'r swydd wag hon yn gynnar. Felly rydym yn eich annog i wneud cais mor gynnar â phosibl.
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol. Mae ein Cynllun Strategol yn sail i'n hymrwymiad i recriwtio a chadw'r dalent orau ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o gefndiroedd amrywiol. Rydym yn penodi ar sail teilyngdod.
Oherwydd y pandemig coronafeirws mae ein holl recriwtio yn cael ei gynnal yn rhithiol. Ein nod yw ymateb i'ch cais cyn gynted â phosibl.
Gwybodaeth Bellach
Disgrifiad Swydd Lawn a Manyleb Person
Ein Pecyn Ymgeisydd
Ewch i'n gwefan i gael gwybodaeth am weithio i ni, ein diwylliant, buddion, cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a'n cyfleoedd datblygu a datblygu gyrfa.