Y cyfle
Bydd y Rheolwr Ymgysylltu Partneriaeth Fyd-eang yn gyfrifol am gefnogi partneriaethau rhyngwladol amlochrog yn rhagweithiol o fewn y Tîm Allgymorth a Gweithrediadau Byd-eang yng Nghyfarwyddiaeth Ymgysylltu Byd-eang y Brifysgol. Mae'r Gyfarwyddiaeth Ymgysylltu Byd-eang yn gyfrifol am les myfyrwyr rhyngwladol a chymorth sgiliau astudio academaidd, cydymffurfiaeth mewnfudo myfyrwyr, symudedd rhyngwladol myfyrwyr/staff, yn ogystal â phartneriaethau addysg trawswladol a phartneriaethau strategol byd-eang y Brifysgol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan allweddol wrth nodi a dilyn cyfleoedd partneriaethau i hyrwyddo gweledigaeth strategol y brifysgol. Bydd ganddynt sgiliau dadansoddi a datrys problemau cryf, sgiliau rhyngbersonol, rhyngddiwylliannol, cyfathrebu a rheoli prosiect rhagorol, a phrofiad profedig o gyflwyno, negodi a dylanwadu.
Bydd y prif ddyletswyddau yn cynnwys:
Beth rydym yn chwilio amdano
Pam ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd?
Yn 2020 cafodd y Brifysgol ein henwi’n 'Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021' gan The Sunday Times; yn 2021 cawsom ein henwi’n 'Brifysgol y Flwyddyn y DU ac Iwerddon 2022' gan y Times Higher Education ac yn 2022 cawsom ein rhestru fel y brifysgol orau yn y DU am gynaliadwyedd yng Nghynghrair Werdd People and Planet.
Mae gan ein tîm Ymgysylltu Byd-eang enw da am ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n cael effaith i alluogi profiad rhagorol i fyfyrwyr a staff. Credwn mai ein gweithwyr yw ein hased mwyaf ac rydym yn gweld buddsoddi mewn talent yn hanfodol i dwf cynaliadwy a llwyddiant. Rydym felly wedi ymrwymo i wella a datblygu ein cydweithwyr ac yn cynnig ystod eang o gyfleoedd datblygiad personol a phroffesiynol gan gynnwys cyrsiau hyfforddi mewnol, digwyddiadau rhwydweithio yn y DU a chyfnewid staff tramor.
Rydym yn Brifysgol sy'n seiliedig ar werthoedd. Rydym yn falch o'n diwylliant ac cefnogi ein staff. Ein hysbryd cymunedol yw'r llinyn aur sy'n sail i'n gwerthoedd a'n hymddygiad. Rydym yn cefnogi ein gilydd, yn garedig i'n gilydd, ac yn un tîm; ni yw Un Met Caerdydd. Rydym yn annog cynhwysiant sy'n galluogi pawb i deimlo eu bod yn cael eu parchu ac yn gallu perfformio ar eu gorau.
Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith Ymgysylltu Byd-eang ar gael yma:
https://www.cardiffmet.ac.uk/international/Pages/default.aspx
Yn ogystal, mae'r Brifysgol yn cynnig telerau ac amodau cystadleuol iawn gan gynnwys:
Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch â Jael Rav-On, Rheolwr Allgymorth Byd-eang, yn jrav-on@cardiffmet.ac.uk
Os bydd nifer uchel o geisiadau yn cael eu derbyn, efallai y bydd angen i ni gau'r swydd wag hon yn gynnar. Felly rydym yn eich annog i wneud cais mor gynnar â phosibl.
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i greu diwylliant hynod gynhwysol. Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg a chyfeillgar i deuluoedd ac amrywiaeth o rwydweithiau staff, fforymau a digwyddiadau i gefnogi a datblygu ein pobl. Rydym yn croesawu’n gynnes geisiadau gan y rhai heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector addysg uwch.
Gwybodaeth Bellach
Darllenwch ein Pecyn Ymgeiswyr neu ewch i'n gwefan recriwtio staff i gael gwybodaeth am weithio i ni, ein diwylliant, buddion, cydbwysedd bywyd a gwaith a'n cyfleoedd dilyniant a datblygu gyrfa.