Y cyfle
Cenhadaeth Gwasanaethau Pobl (GP) yw helpu i greu lle anhygoel i weithio’n hyblyg i alluogi pobl i ffynnu a byw bywydau gwell ac iachach drwy gyflawni gwaith. Ein nod yw gwneud hyn drwy ddarparu profiad gwych i weithwyr drwy swyddogaeth GP drawsnewidiol, canoli a symleiddio gweithrediadau Adnoddau Dynol, gweld ein cydweithwyr fel ein cwsmeriaid mewnol, a chyd-greu mentrau pobl effeithiol ar gyfer gwaith nawr ac yn y dyfodol sy'n dod i'r amlwg.
Mae ein Prifysgol flaengar, sy’n cynnig gwerth wedi datblygu, wedi amrywio ac wedi gwella’n sylweddol dros y pum mlynedd diwethaf ac wedi llwyddo igynyddu nifer y myfyrwyr yn sylweddol a gwella’r trosiant, wedi gwella ein safle ym mhob tabl cynghrair, wedi ennill gwobr Prifysgol y Flwyddyn y DU ac Iwerddon y 'Times Highes Education' a Prifsygol y Flwyddyn yng Nghymru 2021 y 'Times and Sunday Times'.
Oherwydd y perfformiad rhagorol hwn, rydym yn falch o gynnig dwy swydd newydd fel Swyddogion Recriwtio i ymuno â’r tîm. Byddwch yn cyfrannu at lwyddiant y Brifysgol drwy ddarparu gwasanaeth eithriadol ac effeithiol sydd sy’n ceisio denu a chadw gweithlu o safon uchel sy'n perfformio'n dda. Yn benodol, byddwch yn darparu gwasanaeth gweithredol ac amserol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer ac yn ceisio cefnogi ein gwasanaethau recriwtio staff. Chi fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer yr holl faterion recriwtio a gweinyddol.
Fel ein Swyddog Recriwtio byddwch yn:
Beth rydym yn chwilio amdano
Gyda lefel amlwg o wybodaeth am bolisïau a phrosesau Adnoddau Dynol/recriwtio, bydd gennych brofiad o weithio mewn amgylchedd Adnoddau Dynol/recriwtio gyda dealltwriaeth o arferau gorau recriwtio. Byddwch wrth eich bodd yn gweithio mewn tîm 'gallu gwneud' cyflym gydag ymrwymiad i ddarparu rhagoriaeth mewn gwasanaethau i gwsmeriaid. Mae sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol yn bwysig, gyda llygad brwd am sylw i fanylion a chyflwyniad.
Gyda sgiliau rhyngbersonol rhagorol, byddwch yn gallu gweithio’n effeithiol gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol. Boed yn gweithio'n annibynnol neu o fewn tîm, bydd gennych y gallu i ddefnyddio menter a datrys problemau. Rydym yn edrych am radd mewn pwnc perthnasol neu brofiad proffesiynol cyfatebol ar gyfer y swydd Swyddog Recriwtio hon.
Pam ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd?
Rydym yn falch iawn ein bod ni wedi ennill dwy wobr fawreddog yn ddiweddar – Prifysgol y Flwyddyn y DU 2021 y Times Higher Education a Phrifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021 The Times a The Sunday Times Good University Guide.
Rydym yn Brifysgol sy'n seiliedig ar werthoedd. Rydym yn falch o'n diwylliant ac rydym yno i'n pobl. Ein hysbryd cymunedol yw'r llinyn aur sy'n sail i'n gwerthoedd a'n hymddygiadau. Rydym yn cefnogi ein gilydd, rydym yn garedig i'n gilydd, ac rydym yn un tîm; ni yw Un Met Caerdydd. Rydym yn annog ac yn cofleidio cynhwysiant sy'n galluogi pawb i deimlo eu bod yn cael eu parchu ac yn gallu perfformio ar eu gorau.
Ein staff yw ein hased mwyaf gwerthfawr. Wrth i'r Brifysgol gychwyn ar ei gyfnod nesaf o dwf strategol o ran cwmpas, graddfa a pherfformiad, mae ein tîm recriwtio yn chwarae rhan bwysig wrth ddenu a chadw gweithlu o safon uchel i fynd â ni o fod yn ‘rhagorol’ i fod yn ‘nodedig’. Os ydych yn chwilio am gyfle i wneud eich marc, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Yn ogystal, mae'r Brifysgol yn cynnig telerau ac amodau hynod gystadleuol gan gynnwys:
Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch ag Cerys Purdon, Rheolwr Recriwtio ar cpurdon@cardiffmet.ac. Uk.
Os bydd nifer fawr o geisiadau’n dod i law, efallai y bydd angen inni gau'r swydd wag hon yn gynnar. Felly, rydym yn eich annog i ymgeisio cyn gynted â phosibl.
Mae'r Brifysgol yn ymroddedig i greu diwylliant hynod gynhwysol. Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg a chyfeillgar i deuluoedd ac amrywiaeth o rwydweithiau staff, fforymau a digwyddiadau i gefnogi a datblygu ein pobl. Rydym yn croesawu ceisiadau gan y rheiny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector addysg uwch yn draddodiadol.
Rhagor o wybodaethDarllenwch ein Pecyn Ymgeiswyr neu ewch i'n gwefan recriwtio staff i gael gwybodaeth am weithio inni, ein diwylliant, buddion, cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a'n cyfleoedd ar gyfer camu ymlaen yn eich gyrfa a datblygu.