Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021 gan The Times and The Sunday Times Good University Guide.
Mae ein perfformiad yng nghanllaw eleni yn eithriadol. Ein Prifysgol ddangosodd y cynnydd mwyaf yng Nghymru, a'r trydydd mwyaf yn y DU, gan ein rhoi yn y 40 uchaf yn y DU ar gyfer boddhad myfyrwyr ag ansawdd addysgu a phrofiad ehangach myfyrwyr.
Rydym yn falch iawn bod ein perfformiad cryf wedi golygu bod y Brifysgol wedi denu niferoedd uchel o fyfyrwyr â chymwysterau da ac rydym bellach yn chwilio am staff ychwanegol yn ein hysgolion academaidd a'n hadrannau gwasanaethau proffesiynol.
Y Cyfle
Yn gyfrifol am ddarparu cymorth technegol i’r sector gweithgynhyrchu bwyd yng Nghymru drwy brosiectau wedi’u cyllido gan Lywodraeth Cymru a Diwydiant Bwyd
y DU drwy fecanweithiau’r Ganolfan Diwydiant Bwyd. Bydd y rôl yn rhoi’r cyfle i drosglwyddo gwybodaeth i dîm technegol y Ganolfan, i wneuthurwyr bwyd ac i randdeiliaid, ac oddi yno.
Beth fyddwch chi'n ei wneud - dyletswyddau allweddol
Beth fyddwch chi'n cyfrannu - profiad a chryfderau hanfodol
Beth fydd gennych chi - cymwysterau hanfodol
Ein pecyn gwobrwyo cyfan
Sut i wneud cais
Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch ag Helen Taylor, e-bost hrtaylor@cardiffmet.ac.uk
Dyddiad cau: Dydd Llun Mehefin 12fed
Os bydd nifer fawr o geisiadau'n dod i law, efallai y bydd angen i ni gau'r swydd wag hon yn gynnar. Felly, rydym yn eich annog i wneud cais cyn gynted â phosibl.
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol. Mae ein Cynllun Strategol yn sail i'n hymrwymiad i recriwtio a chadw'r dalent orau ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o gefndiroedd amrywiol. Rydym yn penodi ar sail teilyngdod.
Oherwydd y pandemig coronafeirws, mae ein holl recriwtio'n cael ei gynnal yn rhithiol. Ein nod yw ymateb i'ch cais cyn gynted â phosibl.
Rhagor o Wybodaeth
Darllenwch ein Pecyn Ymgeisydd neu ewch i'n gwefan recriwtio staff i gael gwybodaeth am weithio i ni, ein diwylliant, buddion, cydbwysedd bywyd a gwaith a'n cyfleoedd datblygu a datblygu gyrfa.