Y cyfle
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'n Tîm Cryfder a Chyflyru sefydledig ac uchel ei barch. Byddwch yn ymuno ar adeg hollbwysig wrth i ni gychwyn ar gyfnod newydd cyffrous ar gyfer chwaraeon perfformio, gan adeiladu ar lwyddiannau'r gorffennol a'r presennol. Rydym yn ehangu ein tîm i fod yn dîm sydd â strwythur ac adnoddau da, o dan arweiniad ein Pennaeth Cryfder a Chyflyru, gyda dau Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru a thri Hyfforddwr Cynorthwyol Cryfder a Chyflyru rhan-amser.
Byddwch yn cael y cyfle i weithio gydag amrywiaeth o fyfyrwyr-athletwyr o bob rhan o'n rhaglenni perfformiad gan weithio i gyflawni canlyniadau perfformio wrth wella’r profiad i fyfyrwyr.
Pwrpas: Cynllunio a darparu rhaglenni cryfder a chyflyru i Raglenni Perfformiad dethol i gynnwys;
Beth rydym yn chwilio amdano
Mae'r Tîm Cryfder a Chyflyru yn rhan o'r Tîm Systemau Chwaraeon, gan ddarparu i'n rhaglenni perfformiad amrywiol gyda'r nod o ddarparu'r profiad gorau posibl i fyfyrwyr-athletwr. Yn ogystal â'r wybodaeth ymarferol a phroffesiynol sydd ei hangen i weithredu rhaglen effeithiol, bydd angen i'r ymgeisydd allu ymgysylltu â'n myfyrwyr-athletwyr i roi pob cyfle iddynt gyflawni eu potensial unigol. Er mwyn rhagori yn y rôl hon bydd angen i'r ymgeisydd groesawu rôl, a dull tîm, sydd nid yn unig yn dathlu amgylchedd cynhwysol ond un sy'n hyrwyddo cyflawniad chwaraeon ar lefel uchel yn ogystal â datblygiad corfforol a phersonol.
Pam ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd?
Rydym yn falch iawn ein bod ni wedi ennill dwy wobr fawreddog yn ddiweddar – Prifysgol y Flwyddyn y DU 2021 y Times Higher Education a Phrifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021 The Times a The Sunday Times Good University Guide.
Rydym yn Brifysgol sy'n seiliedig ar werthoedd. Rydym yn falch o'n diwylliant ac rydym yno i'n pobl. Ein hysbryd cymunedol yw'r llinyn aur sy'n sail i'n gwerthoedd a'n hymddygiadau. Rydym yn cefnogi ein gilydd, rydym yn garedig i'n gilydd, ac rydym yn un tîm; ni yw Un Met Caerdydd. Rydym yn annog ac yn cofleidio cynhwysiant sy'n galluogi pawb i deimlo eu bod yn cael eu parchu ac yn gallu perfformio ar eu gorau.
Yn ogystal, mae'r Brifysgol yn cynnig telerau ac amodau hynod gystadleuol gan gynnwys:
Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch ag Dai Watts, Pennaeth Cryfder a Chyflyru, ar dwatts@cardiffmet.ac.uk.
Os bydd nifer fawr o geisiadau’n dod i law, efallai y bydd angen inni gau'r swydd wag hon yn gynnar. Felly, rydym yn eich annog i ymgeisio cyn gynted â phosibl.
Mae'r Brifysgol yn ymroddedig i greu diwylliant hynod gynhwysol. Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg a chyfeillgar i deuluoedd ac amrywiaeth o rwydweithiau staff, fforymau a digwyddiadau i gefnogi a datblygu ein pobl. Rydym yn croesawu ceisiadau gan y rheiny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector addysg uwch yn draddodiadol.
Rhagor o wybodaeth
Darllenwch ein Pecyn Ymgeiswyr neu ewch i'n gwefan recriwtio staff i gael gwybodaeth am weithio inni, ein diwylliant, buddion, cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a'n cyfleoedd ar gyfer camu ymlaen yn eich gyrfa a datblygu.