Yn 2020 cafodd y Brifysgol ein henwi’n 'Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021' gan The Sunday Times; yn 2021 cawsom ein henwi’n 'Brifysgol y Flwyddyn y DU ac Iwerddon 2022' gan y Times Higher Education ac yn 2022 cawsom ein rhestru fel y brifysgol orau yn y DU am gynaliadwyedd yng Nghynghrair Werdd People and Planet a’r brifysgol orau yng Nghymru yn yr Arolwg Hynt Graddedigion.
Os oes gennych gofnod o gyflawniad sy'n dangos yr ymrwymiad, y doniau a'r brwdfrydedd i gyfrannu at ein cymuned ddysgu fyd-eang drwy addysgu, ysgolheictod, ymchwil ac arloesedd rhagorol, ynghyd ag angerdd cyffredin am ein gwerthoedd a'n gweledigaeth, edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan ymgeiswyr a fydd yn helpu i ddatblygu ein statws ymchwil ac a fydd yn gwella amrywiaeth ein prifysgol, ein cymuned a'n partneriaethau, ac i'w cefnogi.
Y cyfle
Rydym yn recriwtio ar gyfer Tiwtoriaid Cyswllt eithriadol, â chymwysterau addas, sydd ar gael i addysgu ym maes mewn meysydd pwnc gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i gyfrifiadureg, gwyddor data, dylunio a datblygu gemau cyfrifiadurol, peirianneg meddalwedd, rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron, systemau gwybodaeth, mathemateg amlgyfrwng, cyfrifiadura a pheirianneg, gwyddor peirianneg (ffiseg, cemeg, deunyddiau), peirianneg drydanol ac electronig (gan gynnwys electroneg mewnblanedig). Bydd pob pwnc yn ymdrin â deunydd sy'n amrywio o lefel 3 i lefel 7.
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau
Beth rydym yn chwilio amdano
Cyswllt i addysgu mewn pynciau amrywiol ar draws rhaglenni. Er mwyn cefnogi’ch cais, byddai’n ddefnyddiol i ni pe gallech ychwanegu crynodeb byr o’ch maes(meysydd) o ddiddordeb, ym meysydd addysgu a, lle bo’n berthnasol, unrhyw feysydd ymchwil, neu fel arall atodwch CV/resumé i amlinellu eich profiad.
Byddwch yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig a chyfeillgar gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol ynghyd ag ymrwymiad i ddarparu profiad rhagorol i fyfyrwyr.
Er mwyn llwyddo, byddwch yn cyfoethogi profiad ein myfyrwyr ymhellach drwy eich arbenigedd a'ch gwybodaeth bwnc fel yr amlygir gan eich cymwysterau a'ch profiad.
Sylwch, oherwydd natur y rolau hyn, bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus fynychu'r campws i ymgymryd â dyletswyddau
Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch ag Cath Tryfona, ar ctryona@cardiffmet.ac.uk neu ffoniwch +44 (0)29 2041 6359.
Os bydd nifer fawr o geisiadau’n dod i law, efallai y bydd angen inni gau'r swydd wag hon yn gynnar. Felly, rydym yn eich annog i ymgeisio cyn gynted â phosibl.
Mae'r Brifysgol yn ymroddedig i greu diwylliant hynod gynhwysol. Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg a chyfeillgar i deuluoedd ac amrywiaeth o rwydweithiau staff, fforymau a digwyddiadau i gefnogi a datblygu ein pobl. Rydym yn croesawu ceisiadau gan y rheiny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector addysg uwch yn draddodiadol.
Rhagor o wybodaeth
Darllenwch ein Pecyn Ymgeiswyr neu ewch i'n gwefan recriwtio staff i gael gwybodaeth am weithio inni, ein diwylliant, buddion, cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a'n cyfleoedd ar gyfer camu ymlaen yn eich gyrfa a datblygu.