Y cyfle
Mae Gwasanaethau Myfyrwyr a Chyflogadwyedd yn rhoi llwyddiant myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, o gefnogi myfyrwyr yn eu hastudiaethau i'w paratoi ar gyfer y dyfodol. Mae'r tîm yn cynnwys: Lles ac Anabledd, Cymorth Dysgu, Cyngor Myfyrwyr, Gyrfaoedd, Lleoliadau, Ymgysylltu â Chyflogwyr, a GO Wales, gyda chefnogaeth y Tîm Gweithrediadau. Gan weithio mewn amgylchedd llawn cymhelliant, cyfeillgar a dibynadwy, rydym yn ymdrechu i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr. Rydym yn helpu myfyrwyr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi i lwyddo ac yn barod ar gyfer eu camau nesaf.
Byddwch yn darparu rôl ganolog wrth gefnogi myfyrwyr drwy weithio’n gydweithredol â chydweithwyr ledled y tîm agosaf ac ehangach i ddarparu gwasanaeth cyngor myfyrwyr proffesiynol, agos-atoch a chynhwysol mewn ymateb i amrywiaeth eang o ymholiadau anacademaidd gan fyfyrwyr.
Beth rydym yn chwilio amdano
Pam ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd?
Rydym yn falch iawn ein bod ni wedi ennill dwy wobr fawreddog yn ddiweddar – Prifysgol y Flwyddyn y DU 2021 y Times Higher Education a Phrifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021 The Times a The Sunday Times Good University Guide.
Yn ogystal, mae'r Brifysgol yn cynnig telerau ac amodau hynod gystadleuol gan gynnwys:
Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch â Matthew Betteridge, Rheolwr Cyngor Myfyrwyr, ar mbetteridge@cardiffmet.ac.uk
Os bydd nifer fawr o geisiadau’n dod i law, efallai y bydd angen inni gau'r swydd wag hon yn gynnar. Felly, rydym yn eich annog i ymgeisio cyn gynted â phosibl.
Mae'r Brifysgol yn ymroddedig i greu diwylliant hynod gynhwysol. Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg a chyfeillgar i deuluoedd ac amrywiaeth o rwydweithiau staff, fforymau a digwyddiadau i gefnogi a datblygu ein pobl. Rydym yn croesawu ceisiadau gan y rheiny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector addysg uwch yn draddodiadol.
Rhagor o wybodaethDarllenwch ein Pecyn Ymgeiswyr neu ewch i'n gwefan recriwtio staff i gael gwybodaeth am weithio inni, ein diwylliant, buddion, cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a'n cyfleoedd ar gyfer camu ymlaen yn eich gyrfa a datblygu.