Y Cyfle
Mae adran Marchnata a Chysylltiadau Allanol y Brifysgol yn gyfrifol am godi proffil a hyrwyddo Met Caerdydd yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Rydym yn darparu gweithgareddau cyfathrebu strategol, brandio, marchnata a recriwtio myfyrwyr i sicrhau dull Un Met Caerdydd cyson ar draws yr holl weithgarwch mewnol ac allanol sy'n cyd-fynd â gwerthoedd, ymddygiadau ac amcanion strategol y Brifysgol. Rydym yn adran broffesiynol flaengar, arloesol a chreadigol sydd â phrofiad helaeth ar draws pob maes, sydd wedi'i ymrwymo i ddatblygu unigolion a sicrhau yr effaith fwyaf posibl o'r holl weithgareddau marchnata a chysylltiadau allanol.
Mae hon yn swydd allweddol a fydd yn cyfrannu at uchelgeisiau Cynllun Strategol 2030 newydd y Brifysgol. Bod yn rhan weithredol o’r gwaith o gyflwyno mentrau hyrwyddo recriwtio myfyrwyr er mwyn cyflawni nodau ac amcanion strategol yr uned a thargedau recriwtio myfyrwyr.
Beth fyddwch chi'n ei wneud?
Beth rydym yn chwilio amdano
Pam ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd?
Yn 2020 cafodd y Brifysgol ein henwi’n 'Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021' gan The Sunday Times; yn 2021 cawsom ein henwi’n 'Brifysgol y Flwyddyn y DU ac Iwerddon 2022' gan y Times Higher Education ac yn 2022 cawsom ein rhestru fel y brifysgol orau yn y DU am gynaliadwyedd yng Nghynghrair Werdd People and Planet.
Yn ogystal, mae'r Brifysgol yn cynnig telerau ac amodau hynod gystadleuol gan gynnwys:
Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch â Hanna Kenny, rheolwr recriwtio myfyrwyr dros dro, ar HKenny@cardiffmet.ac.uk
Os bydd nifer fawr o geisiadau’n dod i law, efallai y bydd angen inni gau'r swydd wag hon yn gynnar. Felly, rydym yn eich annog i ymgeisio cyn gynted â phosibl.
Mae'r Brifysgol yn ymroddedig i greu diwylliant hynod gynhwysol. Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg a chyfeillgar i deuluoedd ac amrywiaeth o rwydweithiau staff, fforymau a digwyddiadau i gefnogi a datblygu ein pobl. Rydym yn croesawu ceisiadau gan y rheiny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector addysg uwch yn draddodiadol.
Rhagor o wybodaeth
Darllenwch ein Pecyn Ymgeiswyr neu ewch i'n gwefan recriwtio staff i gael gwybodaeth am weithio inni, ein diwylliant, buddion, cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a'n cyfleoedd ar gyfer camu ymlaen yn eich gyrfa a datblygu.