Y cyfle
Mae’r rôl allweddol hon yn cefnogi Cyfarwyddwyr Rhaglenni, Tiwtoriaid Blwyddyn a Phenaethiaid Adrannau fel rhan o dîm o weinyddwyr sy’n cynnig cefnogaeth weinyddol lefel uchel wrth ddarparu rhaglenni’r Ysgol o ddydd i ddydd.
Mae’r swydd hon yn gofyn am unigolyn gyda’r gallu i gydlynu’r gwaith o weinyddu’r rhaglenni yn effeithiol, gan ddefnyddio sgiliau dylanwadu a thrafod er mwyn sicrhau bod gwasanaeth proffesiynol yn cael ei hwyluso i staff a myfyrwyr.
Beth rydym yn chwilio amdano
Pam ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd?
Yn 2020 cafodd y Brifysgol ein henwi’n 'Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021' gan The Sunday Times; yn 2021 cawsom ein henwi’n 'Brifysgol y Flwyddyn y DU ac Iwerddon 2022' gan y Times Higher Education ac yn 2022 cawsom ein rhestru fel y brifysgol orau yn y DU am gynaliadwyedd yng Nghynghrair Werdd People and Planet.
Rydym yn Brifysgol sy'n seiliedig ar werthoedd. Rydym yn falch o'n diwylliant ac rydym yno i'n pobl. Ein hysbryd cymunedol yw'r llinyn aur sy'n sail i'n gwerthoedd a'n hymddygiadau. Rydym yn cefnogi ein gilydd, rydym yn garedig i'n gilydd, ac rydym yn un tîm; ni yw Un Met Caerdydd. Rydym yn annog ac yn cofleidio cynhwysiant sy'n galluogi pawb i deimlo eu bod yn cael eu parchu ac yn gallu perfformio ar eu gorau. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ynglŷn â’n gwasanaethau Ysgol Reoli Caerdydd yma: Cardiff School of Management - Cardiff Metropolitan University.
Yn ogystal, mae'r Brifysgol yn cynnig telerau ac amodau hynod gystadleuol gan gynnwys:
Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch a Steph Whitfield, Cydlynydd Cefnogi Rhaglenni, ar swhitfield@cardiffmet.ac.uk
Os bydd nifer fawr o geisiadau’n dod i law, efallai y bydd angen inni gau'r swydd wag hon yn gynnar. Felly, rydym yn eich annog i ymgeisio cyn gynted â phosibl.
Mae'r Brifysgol yn ymroddedig i greu diwylliant hynod gynhwysol. Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg a chyfeillgar i deuluoedd ac amrywiaeth o rwydweithiau staff, fforymau a digwyddiadau i gefnogi a datblygu ein pobl. Rydym yn croesawu ceisiadau gan y rheiny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector addysg uwch yn draddodiadol.
Rhagor o wybodaeth
Darllenwch ein Pecyn Ymgeiswyr neu ewch i'n gwefan recriwtio staff i gael gwybodaeth am weithio inni, ein diwylliant, buddion, cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a'n cyfleoedd ar gyfer camu ymlaen yn eich gyrfa a datblygu.