Amdanom ni
Yn 2020 cafodd y Brifysgol ein henwi’n 'Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021' gan The Sunday Times; yn 2021 cawsom ein henwi’n 'Brifysgol y Flwyddyn y DU ac Iwerddon 2022' gan y Times Higher Education ac yn 2022 cawsom ein rhestru fel y brifysgol orau yn y DU am gynaliadwyedd yng Nghynghrair Werdd People and Planet a’r brifysgol orau yng Nghymru yn yr Arolwg Hynt Graddedigion.
Mae Ysgol Reoli Caerdydd (YRC) yn ddarparwr uchelgeisiol, achrededig o addysg busnes a rheoli. Mae cyfleusterau o’r radd flaenaf ar Gampws Llandaf yn darparu amgylchedd dysgu calonogol a chreadigol, gan arddangos yr Ysgol fel canolfan flaenllaw yn y DU ar gyfer Cyfrifeg, Economeg a Chyllid; Busnes, Rheoli a'r Gyfraith; Marchnata a Strategaeth; a Thwristiaeth, Lletygarwch a Rheoli Digwyddiadau. Mae staff yn gwbl falch o'u cyfraniad sylweddol at adfywio rhanbarthol a thwf economaidd trwy addysgu, gwaith menter ac ymchwil gymhwysol.
Mae'r Ysgol hefyd yn falch o'r rôl y mae'n ei chwarae wrth gyflwyno rhaglenni ledled y byd. Gyda dros 10,000 o fyfyrwyr yn astudio rhaglenni rheoli gyda'n partneriaid TNE rhyngwladol, mae'r Ysgol yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gyfleoedd bywyd myfyrwyr a chymunedau ledled y byd.
Byddwch yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig a chyfeillgar gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol ynghyd ag ymrwymiad i ddarparu profiad myfyriwr rhagorol. Mae proffil ymchwil sefydledig neu addawol ym maes Rheoli Marchnata neu faes cysylltiedig, a phrofiad addysgu da iawn ar raglenni perthnasol yn hanfodol.
I fod yn llwyddiannus byddwch yn cyfoethogi profiad ein myfyrwyr ymhellach trwy eich arbenigedd a'ch gwybodaeth bwnc fel y gwelir yn eich cymwysterau a'ch profiad.
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau
Bydd gofyn i chi wneud cyfraniad sylweddol at gyflawni ein portffolio a addysgir gan gyfrannu at darpariaeth y Rhaglenni BA (Anrh) Rheoli Marchnata a MSc Rheoli Marchnata Strategol a meysydd eraill o'n cwricwlwm craidd yn dibynnu ar eich meysydd arbenigedd a phrofiad. Yn frwdfrydig am addysgeg myfyriwr-ganolog, byddwch yn cyfrannu at ddarparu addysg, gan gynnwys rheoli rhaglenni yn ôl yr angen, ar draws yr ystod o raglenni israddedig ac ôl-raddedig. Byddwch hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol at gyflogadwyedd, ac ymgysylltiad proffesiynol â sefydliadau mewnol ac allanol perthnasol, ar lefel ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol.
Disgwylir i chi gyfrannu at broffil ymchwil yr adran a chwrdd â'r gofynion ansoddol a meintiol ar gyfer eu cyflwyno i'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil nesaf.
Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano
Os oes gennych hanes o gyraeddiadau sy'n dangos yr ymrwymiad, y gallu a’r brwdfrydedd i gyfrannu at ein cymuned ddysgu fyd-eang trwy addysgu, ysgolheictod, ymchwil ac arloesi rhagorol, ynghyd ag angerdd a rennir am ein gwerthoedd a'n gweledigaeth, edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan, ac i gefnogi, ymgeiswyr a fydd yn helpu i ddatblygu ein statws ymchwil ac a fydd yn gwella amrywiaeth ein prifysgol, ein cymuned a'n partneriaethau.
Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch â Athraw Niki Bolton, Pennaeth Marchnata a Strategaeth yr Adranar njbolton@cardiffmet.ac.uk neu i gael rhagor o wybodaeth am weithio yn y Brifysgol ewch i'n gwefan recriwtio.
Os bydd nifer fawr o geisiadau'n dod i law, efallai y bydd angen inni gau'r swydd wag hon yn gynnar. Felly, rydym yn eich annog i wneud cais cyn gynted â phosibl.
Mae'r brifysgol wedi ymrwymo i greu diwylliant cynhwysol iawn. Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg a chyfeillgar i deuluoedd ac amrywiaeth o rwydweithiau staff, fforymau a digwyddiadau i gefnogi a datblygu ein staff. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion heb gynrychiolaeth digonol yn y sector addysg uwch.
Gwybodaeth BellachDarllenwch ein Pecyn Ymgeisydd neu ewch i'n gwefan recriwtio staff i gael gwybodaeth am weithio i ni, ein diwylliant, buddion, cydbwysedd bywyd a gwaith a'n cyfleoedd datblygu a datblygu gyrfa.