Y cyfle
Yn un o dair Canolfan Datblygu Chwaraewyr (CDCh), rydym yn darparu rhaglen hyfforddiant a hyfforddi lleol o ansawdd uchel ar gyfer y chwaraewyr benywaidd gorau yng Nghymru.
Pwrpas rôl Arweinydd y GDCh yw creu amgylchedd datblygu ysbrydoledig a thrawsnewidiol i’r genhedlaeth nesaf o sêr rygbi benywaidd Cymru ar lefel cenedlaethol a rhyngwladol yn Nwyrain Cymru i gyflawni’r dibenion a restrir uchod.
Bydd Arweinydd y GDCh yn gyfrifol am arwain a rheoli rhaglen a chynllun y GDCh i wasanaethu o leiaf 20 ac hyd at 35 o chwaraewyr bob blwyddyn fesul CDCh trwy isafswm o rhwng 15 ac 20 awr o amser cyswllt fesul mis rhwng Gorffennaf a Mai. Bydd y rôl hon yn gyrru athroniaeth a safonau datblygiad y chwaraewr a’r unigolyn y GDCh yn ogystal â'r hyfforddiant dydd i ddydd sy'n datblygu chwaraewyr trwy baratoi unigolion ar gyfer rygbi cenedlaethol a rhyngwladol, tra hefyd yn sicrhau bod amghenion addysgol (a phroffesiynol) chwaraewyr yn fel rhan ganolog o’u datblygiad fel chwaraewyr.
Bydd Arweinydd y GDCh yn datblygu’'r GDCh mewn modd sy'n gwneud y mwyaf o o’n system chwaraeon unigryw ym Met Caerdydd. Bydd hyn yn cynorthwyo datblygiad yr amgylchedd rygbi, materion gweithredol, strwythurau rheoli ac arwain a chreu CDCh a all gyflawni ei nodau annibynnol ei hun tra'n cefnogi canlyniadau system chwaraeon Met Caerdydd. Fel rhan o'r rôl, bydd gan Arweinydd y GDCh gyfrifoldebau hyfforddi fel rhan o Raglen Perfformiad Merched Met Caerdydd i helpu i alinio datblygiad chwaraewyr.
Dolen i'r ddatganiad wasg i gyoheddi Canolfannau Datglygu Chwaraeon: https://www.wru.wales/2023/05/three-new-player-development-centres-for-wales-stars-of-tomorrow/
Beth rydym yn chwilio amdano
Rydym yn chwilio am hyfforddwr rygbi lefel 3 profiadol sydd â hanes gadarn o ddatblygu a thrawsnewid chwaraewyr rygbi dawnus. Byddwch yn gallu defnyddio'r profiad hwn i ddylunio a rheoli rhaglen sy'n creu amgylchedd dysgu perfformiad deniadol, ysbrydoledig a heriol. Gyda sgiliau cyfathrebu cryf a'r gallu i sefydlu perthnasoedd yn gyflym, a yn frwdfrydig am arwain. Rydym ni'n chwilio am rywun brwfrydig sydd â'r weledigaeth a'r egni i greu CDCh llwyddiannus.
Pam ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd?
Yn 2020 cafodd y Brifysgol ein henwi’n 'Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021' gan The Sunday Times; yn 2021 cawsom ein henwi’n 'Brifysgol y Flwyddyn y DU ac Iwerddon 2022' gan y Times Higher Education ac yn 2022 cawsom ein rhestru fel y brifysgol orau yn y DU am gynaliadwyedd yng Nghynghrair Werdd People and Planet.
Rydym yn Brifysgol sy'n seiliedig ar werthoedd. Rydym yn falch o'n diwylliant ac rydym yno i'n pobl. Ein hysbryd cymunedol yw'r llinyn aur sy'n sail i'n gwerthoedd a'n hymddygiadau. Rydym yn cefnogi ein gilydd, rydym yn garedig i'n gilydd, ac rydym yn un tîm; ni yw Un Met Caerdydd. Rydym yn annog ac yn cofleidio cynhwysiant sy'n galluogi pawb i deimlo eu bod yn cael eu parchu ac yn gallu perfformio ar eu gorau.
Yn ogystal, mae'r Brifysgol yn cynnig telerau ac amodau hynod gystadleuol gan gynnwys:
Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch ag Ollie Toogood, Pennaeth y System Chwaraeon, ar otoogood@cardiffmet.ac.uk
Os bydd nifer fawr o geisiadau’n dod i law, efallai y bydd angen inni gau'r swydd wag hon yn gynnar. Felly, rydym yn eich annog i ymgeisio cyn gynted â phosibl.
Mae'r Brifysgol yn ymroddedig i greu diwylliant hynod gynhwysol. Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg a chyfeillgar i deuluoedd ac amrywiaeth o rwydweithiau staff, fforymau a digwyddiadau i gefnogi a datblygu ein pobl. Rydym yn croesawu ceisiadau gan y rheiny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector addysg uwch yn draddodiadol.
Rhagor o wybodaeth
Darllenwch ein Pecyn Ymgeiswyr neu ewch i'n gwefan recriwtio staff i gael gwybodaeth am weithio inni, ein diwylliant, buddion, cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a'n cyfleoedd ar gyfer camu ymlaen yn eich gyrfa a datblygu.